Adroddiad yn galw am weithredu brys i atal difodiant pellach byd natur Cymru

Medi 2023 | O’r afon i’r môr, Sylw

brown rodent on green grass

Mae carfan o arbenigwyr, cadwraethwyr a gwyddonwyr wedi dod ynghyd i alw am weithredu brys i atal dirywiad pellach ym myd natur wedi i adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 ddangos fod niferoedd rhai rhywogaethau yng Nghymru wedi disgyn yn syfrdanol. Noda’r adroddiad fod y dirywiad i’w weld ar draws Cymru gyfan a bod yna beryg y bydd nifer o rywogaethau yn diflannu yn llwyr os na fydd mesurau yn cael eu cymryd i geisio newid y sefyllfa, gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o gael eu colli’n llwyr.

Y rhywogaethau sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf, yw’r rhai llai cyfarwydd gan gynnwys mathau o bryfed, planhigion a mamaliaid. Ymysg y rhywogaethau sydd mewn perygl o ddiflannu yw anifeiliaid fel Tegeirian y Fign Galchog, Llygoden y Dŵr a Madfall y Tywod. Mae yna hefyd gwymp sylweddol wedi bod hefyd yn niferoedd Eog yr Iwerydd a’r Gylfinir sydd efallai yn fwy cyfarwydd i’r cyhoedd. Aseswyd oddeutu 3,900 o rywogaethau ac fe ganfuwyd fod mwy na 2% yn barod wedi darfod yng Nghymru. Yn ôl awduron yr adroddiad Cymru yw un o’r gwledydd lle yr ydym wedi gweld y dirywiad mwyaf o ran amrywiaeth byd natur unrhyw le ar y ddaear.

Mae’r adroddiad yn dadlau fod tystiolaeth o dros yr hanner canrif ddiwethaf yn dangos fod newidiadau mewn dulliau amaethyddol ac effaith newid hinsawdd wedi cael effaith andwyol ar dir a dyfrffyrdd Cymru. Dywed taw llygredd yw prif achos problemau yn y môr, ond fod newid hinsawdd a gor-bysgota yn y gorffennol yn golygu bod llai na hanner o’r ardaloedd rheini o’r môr sydd yn warchodedig mewn cyflwr da.

Dywedodd Alun Pritchard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:

‘Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut yr ydym yn wynebu trobwynt hollbwysig yn yr argyfwng natur ledled Cymru. Problem genedlaethol, sydd angen gweithredu cenedlaethol. Ond rydyn ni’n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud; rydyn ni’n gwybod beth sy’n gweithio. Rhaid i lywodraethau, busnesau, cymunedau a’r cyhoedd weithio gyda’i gilydd yn awr ac ar fwy o frys yn gyffredinol os ydym am roi byd natur yn ôl lle mae’n perthyn. Mae angen inni fod yn uchelgeisiol ac ysbrydoledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ni arhosith natur ac ni ddylem ninnau chwaith.’

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ymweld a www.stateofnature.org.uk.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This