IWA a Phrifysgol Bangor yn trefnu digwyddiad i drafod yr ‘Ynys Ynni’

Medi 2023 | Sylw, Polisi gwledig

white and black lighthouse on brown rock formation near body of water during daytime

Bydd yr Institute of Welsh Affairs yn cynnal digwyddiad ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor ym Mharc Gwyddoniaeth Menai ar 5 Hydref 2023 i drafod potensial Ynys Môn i fod yn ‘Ynys Ynni’. Mae’r trefnwyr yn datgan mae bwriad y digwyddiad yw edrych ar ddarpariaeth ynni ar yr ynys, a’r modd y gellid sicrhau fod hyn yn ddiogel, yn ddibynadwy a chynaliadwy yng nghyd-destun cyrraedd sero net.

Mae’r digwyddiad yn addo ‘ail-sbarduno’r ddadl ar ynni yng ngogledd Cymru’ yn ôl y trefnwyr, gyda thrafodaeth banel rhwng Virginia Crosbie AS, Andy Billcliff o brosiect Morlais, Dylan Williams o Gyngor Sir Ynys Môn a Debbie Jones o M-SParc. Bydd cyflwyniadau gan Yr Athro Simon Middleburgh o Brifysgol Bangor sy’n aelod o’r Sefydliad Dyfodol Niwclear, a gan Yr Athro Simon Neill hefyd o’r brifysgol sy’n arbenigwr ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y môr.

Am ragor o wybodaeth, ac i archebu lle yn y digwyddiad, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This