Yr Urdd yn agor gwersyll newydd amgylchedd a llês ym Mhentre Ifan

Medi 2023 | Sylw

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi agor gwersyll newydd yn Sir Benfro bydd a phwyslais penodol ar fyw yn gynaliadwy. Bydd Gwersyll Amgylcheddol a Lles Pentre Ifan yn rhoi cyfle i 8,000 o bobl ifanc ymweld bob blwyddyn, gan ddarparu profiad unigryw wedi ei ynysu o’r byd digidol yn enw sicrhau eu lles a dysgu egwyddorion amgylcheddol. Cafodd y gwersyll ei greu wedi ymgynghoriad ag aelodau’r Urdd, oedd yn gweld yr amgylchedd a lles fel blaenoriaeth i’r mudiad.

Bydd preswylwyr yn gallu cymryd rhan mewn sesiynau megis rhai gwyllt-grefft, gweithdai ffasiwn cynaliadwy, ioga a meddwlgarwch, serydda a thyfu bwyd. Mae’r gwersyll yn cynnwys llety safle glampio, ardaloedd arlwyo ynghyd a gardd perlysiau chegin awyr agored i baratoi bwyd.

Mewn agoriad ar ddydd Iau 28 Medi 2023, fe agorwyd y gwersyll yn swyddogol gan Julie James a Jeremy Miles. Dywedodd Jeremy Miles:

‘Rwy’n falch o agor y prosiect unigryw hwn yn swyddogol. Mae’r Urdd wedi gwneud gwaith gwych yn gwrando ac yn creu canolfan sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, lles pobl ifanc a’r Gymraeg. Mae ein Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â gwrando ar ddisgyblion a dysgu mewn ffordd sy’n ennyn eu diddordeb. Mae’r argyfwng hinsawdd a natur, yn ogystal â lles, yn ganolog i’r Cwricwlwm ac yn rhan o addysg pob dysgwr. Rwy’n falch iawn y bydd Pentre Ifan yn helpu dysgwyr i barchu a chysylltu â natur, cefnogi eu hiechyd meddyliol a chorfforol a datblygu perthnasoedd iach â thechnoleg.’

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: ‘Un o gyfrinachau tu ôl i lwyddiant yr Urdd yw bod y Mudiad yn gwrando ar yr aelodau er mwyn darparu’r hyn sy’n berthnasol i’w bywydau nhw. Mae datblygu Gwersyll Pentre Ifan yn brawf o hynny – mae’n seiliedig ar weledigaeth ein pobl ifanc.’

‘Mae’r Urdd wedi ymrwymo i gysylltu ieuenctid Cymru â byd natur a’u grymuso i warchod yr amgylchedd, ac mi fydd Gwersyll Pentre Ifan yn ein galluogi i barhau i gael effaith gadarnhaol ar iechyd emosiynol a iechyd meddwl cenedlaethau’r dyfodol. Mae hwn yn gam arall ymlaen ym mhrosiect datblygu canolfannau preswyl y Mudiad, sy’n ein galluogi i gynyddu dysgu awyr agored a lles wrth gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.’

Daeth y nawdd ar gyfer datblygu Gwersyll Pentre Ifan drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru. Am fwy o wybodaeth am y gwersyll newydd, ewch i wefan yr Urdd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This