Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn mynegi pryder ynghylch cynllun Cynefin newydd

Hydref 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ailadrodd eu gofidion ynghylch y diffyg manylion sydd ar gael ynghylch Cynllun Cynefin Cymru, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ar 29 Medi 2023. Nid yw’r Llywodraeth wedi cyhoeddi beth yw’r gyllideb ar gyfer y cynllun, sydd yn cymryd lle cynllun ariannu amgylcheddol Glastir ar ddechrau 2024. Gall fod mwy na 17,000 o ffermwyr yn gymwys ar gyfer y grantiau, ond nid oes yr un ohonynt yn gwybod faint y byddent yn ei dderbyn o dan y cynllun newydd.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman:

‘Rydym yn hynod ofidus am y diffyg eglurdeb ynghylch y gyllideb sydd ar gael. Mae’r ansicrwydd i fusnes ffarmio yn enfawr a ni ddylid disgwyl i unrhyw fusnes orfod gweithredu o dan y fath amgylchiadau.’

‘Tra bod y rheini sydd â chytundebau Glastir yn barod yn cael eu blaenoriaethu i gael cytundebau, mae’r cyfraddau talu tua 45 y cant yn is ar gyfartaledd na’r taliadau ar gyfer tir cynefin o dan Glastir Uwch.’

‘Bydd cyfraddau talu is, ynghyd a cholli taliadau rheoli fferm gyfan a chefnogaeth ar gyfer gwaith cyfalaf yn golygu fod y rheini sydd ar hyn o bryd yn Glastir yn derbyn taliadau sy’n sylweddol is y flwyddyn nesa os ydynt yn penderfynu bod yn rhan o’r cynllun.’

‘Yn ychwanegol, achos cyfyngiadau amser, ni fydd Llywodraeth Cymru a’r gallu i ymdrin â phroblemau mapio neu gynnig ail rownd o gytundebau tu hwnt i 1 Ionawr 2024, hyd yn oed os oedd y gyllideb yn caniatáu hynny.’

Mewn datganiad dywedodd UAC eu bod yn deall y pwysau sy’n bodoli ar gyllideb datblygu cefn gwlad yn rhannol o ganlyniad i doriadau gan Lywodraeth y DU, ond bod rhaid sicrhau fod Cynllun Cynefin Cymru yn derbyn yr un nawdd a’r cynllun Glastir blaenorol.

Daw datganiad Llywydd UAC ynghylch y cynllun ar ôl rhai tebyg gan NFU Cymru, sydd hefyd wedi bod yn feirniadol o’r diffyg cyllideb a’r ffaith nad oes yna astudiaeth traweffaith wedi ei gynnal gan Lywodraeth Cymru i effeithiau’r cynllun newydd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This