Allfudo: gwersi o Loegr

by Medi 28, 2020Arfor, Featured CY

Gan Dr Dyfan Powell, Wavehill

Ym Mis Gorffennaf 2020 fe gyhoeddodd Comisiwn Symudedd Cymdeithasol (Social Mobility Commission) a’r Institute for Employment Studies eu hadroddiad, ‘Moving out to move on: Understanding the link between migration, disadvantage and social mobility’.[1] Bwriad yr astudiaeth oedd ceisio deall pam fod pobl yn gadael ardaloedd difreintiedig ac effaith yr allfudo hynny ar y cymunedau yr roeddent yn gadael. Cyflwynir llawer o ddata yn yr adroddiad a cheir trafodaeth ddifyr sy’n berthnasol i ardal Arfor, a’r heriau y mae’n ei wynebu. Yn bwysig, dyma un o’r adroddiadau cyntaf sy’n trin a thrafod data a gasglwyd yn ystod argyfwng COVID-19, ac sy’n dadansoddi effaith yr argyfwng ar allfudo. Dyma grynodeb o’r hyn sydd o ddiddordeb i’r rheini sy’n ceisio deall a mynd i’r afael â thraweffaith heriau allfudo ar ardaloedd gwledig Cymru.

Allfudwyr

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu darlun o allfudwyr sy’n gyffredin i ardal Arfor. Mae’r data’n cynnig fod allfudwyr yn llawer mwy tebygol o symud yn eu 20au cynnar a bod ganddynt gymhwyster lefel gradd neu uwch. Yn ogystal, mae menywod yn fwy tebygol o symud na dynion – mae lefelau allfudo 16% yn uwch i fenywod.[2]

Mae’r gwaith hefyd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r fath o bobl sydd yn symud ac mai unigolion o gefndir economaidd-gymdeithasol uwch yw’r rhai mwyaf symudol. Ond, ar y cyfan, mae llif yr allfudo yn dueddol i fynd o ardaloedd sydd â lefelau tebyg o amddifadedd h.y. mae unigolion o gefndiroedd difreintiedig yn symud i ardaloedd difreintiedig eraill, tra bod unigolion o gefndiroedd llewyrchus, yn dueddol i symud i ardaloedd llewyrchus.

Budd allfudo

Mae allfudwyr ychydig yn fwy tebygol o ddarganfod swydd ac  o gael swydd rheolaeth uwch ac ar gyfartaledd yn derbyn cyflog uwch na’r rheini sydd yn aros yn eu hardal.[3] Ond mae’r gwahaniaethau rhwng allfudwyr o gefndiroedd difreintiedig yn fwy arwyddocaol na’r rheini o gefndiroedd cefnog h.y. mae mwy o fudd economaidd i symud o ardal difreintiedig.

Rhesymau dros allfudo

Er bod yna fanteision economaidd dros  symud – nid dyma yw’r unig rheswm dros symud.[4] Mae’r buddion y mae allfudwyr yn eu crybwyll yn ymwneud ag ystod o ffactorau, megis gwell gofal iechyd, gwell addysg, trafnidiaeth cyhoeddus sy’n well ac yn fforddiadwy yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol sy’n dueddol i fod yn fwy cyffredin a deniadol o fewn ardaloedd dinesig. Dyma ffactorau sy’n ymwneud â safon byw, nid ffactorau economaidd. Yn wir, mae allfudwyr yn cydnabod fod costau byw yn uwch ar ôl symud i ddinasoedd, ac yn un o ganlyniadau negyddol allfudo. Ond mae’n bris sy’n werth ei dalu yn nhyb yr allfudwyr yma, o ystyried y buddion ehangach.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig nad yw pobl yn aros yn eu hardaloedd am resymau economaidd. Mae hyfywdra’r cysylltiadau cymdeithasol a rhesymau diwylliannol, personol a theuluol yn ffactorau dylanwadol. Mae hyn yn bwysig o ystyried mai prif ymateb polisi i allfudo yn ardaloedd gwledig Cymru, yw i ffocysu ar ffactorau economaidd a chyflogaeth – nid y ffactorau sy’n peri pobl i ddewis aros.

COVID-19

Mae’r adroddiad yn gymharol unigryw, gan iddo gyflwyno data a gasglwyd ac a ddadansoddwyd yn ystod cyfnod COVID-19. Mae’n rhagdybio y bydd effaith COVID-19 ar gyflogaeth ac ar weithgarwch economaidd yn effeithio ar batrymau mudo am gyfnod hir. Gallai myfyrwyr ifanc ohirio eu hastudiaethau agohirio gwneud penderfyniadau sy’n peri risg, megis symud i ardal newydd i chwilio am swydd. Yn y cyfamser, mae’r niferoedd o bobl sy’n dibynnu ar gymorth y wladwriaeth drwy gynlluniau cefnogi swyddi wedi cynyddu’n sylweddol, ac hefyd yn wynebu risg o symud i ffwrdd o rhwydweithiau cymorth teuluol a chymdeithasol sydd wedi bod yn hanfodol yn ystod cyfnod yr argyfwng.

Ochr arall a “chadarnhaol” y clefyd yn y cyfamser yw y bod gweithluoedd a chyflogwyr wedi dod yn fwy cyfarwydd â threfniadau gweithio o bell, ac wedi newid barn o ran ei fanteision. Gallai agwedd fwy cadarnhaol tuag at weithio o’r cartref leihau’r angen am fudo neu gymudo. 

Yn hyn o beth, gellir disgwyl cwymp yn y niferoedd sy’n allfudo o ardal Arfor.

Argymhellion polisi

Mae’r data a’r dadansoddiad sy’n cael ei gyflwyno yn hynod berthnasol i ardal Arfor, a’r rheini sy’n gweld mai colled pobl ifanc yw prif wendid ieithyddol yn ogystal ag economaidd yr ardal.

Mae’r adroddiad yn cloi gan gyflwyno ystod o argymhellion polisi. Fel y disgwylir, mae pwyslais ar wella seilwaith a sgiliau digidol, cysylltedd trafnidiaeth a thai o ansawdd da; y tri cynhwysyn mwyaf hanfodol i alluogi lleoedd i ddenu pobl newydd a chadw eraill. Ond dyma dair arall sy’n torri tir ychydig yn wahanol i’r galwadau arferol am fwy o wariant cyhoeddus a gwella isadeiledd:

Prifysgolion: Mae’r adroddiad yn argymell y dylai prifysgolion a cholegau gydweithio i sicrhau bod gan ardaloedd lleol a phenodol, lwybrau addysg cynhwysfawr a hyblyg i’r rhai sy’n gadael yr ysgol ac i oedolion. Mae ardal Arfor yn unigryw gan fod y pedair awdurdod wledig yn gartref i bedair prifysgol. Mae’r adroddiad yn cynnig y gall y prifysgolion yma chwarae mwy o rôl yn natblygiad economaidd yr ardaloedd.

Datblygu hunaniaeth yr ardal: Mae awduron yr adroddiad yn cynnig y dylid ceisio cryfhau’r ymdeimlad diwylliannol o hunaniaeth ardal ym mhob cymuned leol. Mae cyflwyno hunaniaeth gref yn medru denu unigolion i ardal a chadw unigolion yno. 

Gweithluoedd amrywiol: Dylai cyflogwyr feddwl am recriwtio a sefydlu llwybrau dilyniant y tu hwnt i’w pencadlysoedd daearyddol traddodiadol, a cheisio datblygu trefniadau gweithio hyblyg sy’n galluogi gweithio o bell. Gellir dadlau fod gan gyrff ac awdurdodau cyhoeddus rôl wrth arwain a chynorthwyo hyn.

 

[1]https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/902943/Moving_out_to_move_on_report.pdf
[2] Mae’r ymchwil ansoddol o grwpiau ffocws yn cynnig fod ceisio canfod swyddi ag oriau gwaith hyblyg yn bwysig, sy’n aml yn gysylltiedig â chyfleusterau gofal plant fforddiadwy.
[3] Mae data’n cynnig, er enghraifft, fod 71.7% o allfudwyr yn sicrhau swydd rheolaeth uwch, ond mai 28.1% yn unig o’r rheini sy’n aros yn eu hardal sy’n sicrhau swydd o’r fath. Mae cyflogau misol allfudwyr 33% yn uwch na’r rheini nad sy’n symud.
[4] Yn wir, y prif rheswm economaidd dros symud yw i ddarganfod swydd yn unig, nid i sicrhau gwell swydd neu dâl uwch. Ond, mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno data sy’n cynnig ystod o rhesymau ehangach dros allfudo.

Share This