Ardaloedd gwledig clyfar

Medi 2020 | Polisi gwledig, Sylw

gray concrete road during daytime

Mae adroddiad ‘Ardaloedd gwledig Clyfar’ a gafodd ei gomisiynu gan BT Cymru Wales a’i gynhyrchu gan Wavehill yn adolygu’r defnydd o seilwaith digidol a’r cyfleoedd mae’n ei greu, wrth ganolbwyntio ar sectorau amaethyddiaeth a thwristiaeth. Gyda’r ddau sector yn chwarae rôl ganolog yn economi Cymru wledig ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth mawr, mae’r adroddiad yn cynnig mewnwelediad  i ddefnydd cyflwr seilwaith digidol yng Nghymru wledig.

Mae’r argymhellion o’r adroddiad yn amrywio ac yn amlygu’r angen am gefnogaeth bellach i fusnesau i wella eu defnydd o seilwaith digidol, a chynnig hyfforddiant digidol mwy hygyrch er mwyn codi lefelau sgiliau digidol mewn ardaloedd gwledig. Er mwyn cyflawni hyn mae’r adroddiad yn argymell yr angen i brofi gwerth seilwaith digidol i fusnesau gwledig a pha allbynnau sy’n bosib o ganlyniad i fuddsoddiad digidol.

Mae astudiaethau achos yn cael eu ddefnyddio yn yr adroddiad i bwysleisio’r buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd mae cysylltedd digidol yn ei greu i fusnesau. Mae’r adroddiad yn dod i gasgliad bod gwella cysylltedd gyda’r potensial i helpu mynd i’r afael â nifer o faterion hir sefydlog sy’n wynebu ardaloedd gwledig, ond bod angen buddsoddiad llawn mewn hyfforddiant digidol a seilwaith er mwyn i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru wledig ffynnu.

<GWELER ADRODDIAD LLAWN YMA>

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This