Argymhellion Marchnad Lafur Cymraeg

by Medi 23, 2020Arfor, Featured CY

Mae’r papur hwn wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Four Cymru a gwerthuswyr annibynnol Wavehill, fel dilyniant o brosiect Marchnad Lafur Cymraeg gyda’r nod o ddatblygu ar allbynnau y clystyrau a grëwyd, ac i ehangu ar waith ymchwil helaeth a gyflawnwyd yn ystod cyfnod y prosiect. Fel rhan o’r prosiect cafwyd sawl sgwrs gyda rhanddeiliaid a sefydliadau yn trafod y berthynas rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg a gwelwyd dryswch yn aml wrth drafod y berthynas. Roedd y cyswllt rhwng iaith, gwaith a phobl ifanc yn cael ei godi’n aml yn ystod ein trafodaethau ond nid oedd ateb clir ar sut i wella’r sefyllfa chwaith. Yn naturiol fe ddatblygodd gwaith y prosiect i ganolbwyntio ar yr economi cymunedol a sylfaenol oherwydd ei fod yn cael ei weld fel allbwn diriaethol i’r peilot. Cododd hwn gwestiynau pellach ynglyn â dylanwad allfudo a mudo ar gymunedau a pherthynas hynny gyda’r economi a’r iaith.

Ynghyd â’r gwaith ymchwil a wnaethpwyd, daeth yn amlwg fod yna fwlch rhwng enghreifftiau o arfer da oedd yn cael ei wneud ar lawr gwlad a’r ymchwil oedd ar gael i brofi hyn. Cafwyd sawl esiampl o fusnes neu sefydliad yn dylanwadu yn bositif ar ragolygon ieithyddol yn sgil eu gofynion ieithyddol e.e. polisi iaith Cyngor Gwynedd. Ond doedd dim modd mesur hyn yn llawn heb ymchwil cadarn. Er mwyn medru datblygu ar argymhellion prosiect Marchnad Lafur Cymraeg mae angen edrych ar waith ymchwil newydd allai ddylanwadu ar strategaeth a pholisi strwythurol trwy ddefnyddio ymchwil a ffigyrau cyfredol sy’n medru dangos ffordd o wella sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau gwledig.

Bydd ymchwil pellach yn y maes hwn yn cyfrannu at brofi gwaith a gwblhawyd gan brosiect Marchnad Lafur Cymraeg gan geisio dadansoddi gwir effaith newidiadau economaidd ar adfywio’r Gymraeg.

Crynodeb o’r Argymhellion

Yn dilyn gwaith ar brosiect Marchnad Lafur Cymraeg, casglwyd canfyddiadau ac fe gyflwynwyd ystod o argymhellion polisi ac am waith pellach yn y maes.

Argymhelliad 1 – Codi proffil gwerth yr Economi i hyfywedd yr iaith – Mae angen mwy o ddeallusrwydd o fewn llywodraethau o werth yr economi i hyfywedd yr iaith wrth lunio strategaeth ieithyddol. Dylid codi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth rhwng diffiniad yr Iaith a’r economi ac Economi Iaith er mwyn sicrhau ein bod yn prif ffrydio economi fel sail i strategaethau ieithyddol yng Nghymru a bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys ym mhob agwedd o bolisi.

Argymhelliad 2 – Ymchwil Newydd – Mae ymchwil ar berthynas yr iaith a’r economi yn brin ofnadwy. Gallai ymchwil pellach gryfhau achos gwerth y pwnc fel ffordd o ehangu defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau. Mae angen mwy o ddeallusrwydd academaidd er mwyn medru dylanwadu ar bolisi yn hytrach na dadansoddi ymchwil blaenorol nad yw bellach yn berthnasol. Bydd ymchwil cynhwysfawr ar ddylanwad yr iaith a’r economi yng Nghymru yn medru creu amodau mwy ffafriol i’r iaith mewn byd busnes a Chymru’n arwain y byd mewn perthynas iaith leiafrifol a’r economi.

Argymhelliad 3 –Cynghorau Arfor i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd – Dylai cynghorau Sir Gâr, Ceredigion ac Ynys Môn ddilyn esiampl Gwynedd o wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol y cyngor. Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd i gyflwyno’r polisi hwn ar ddechrau’r 1980au yn un o’r prif resymau pam taw Gwynedd yw prif gadarnle’r Gymraeg bellach. Dylai’r cynghorau sir anelu at efelychu’r polisi hwn fel rhan o gynllun Arfor. Trwy weithredu’n Gymraeg mae’r cynghorau yn creu gweithlu sy’n defnyddio’r Gymraeg ac yn medru dylanwadu ar iaith busnesau eraill trwy gynlluniau caffael ac arfer da.

Argymhelliad 4 – Annog mwy o entrepreneuriaeth Cymraeg – Mae’r gwaith ymchwil sydd wedi ei gwblhau ar y prosiect hwn yn dangos ein bod angen darganfod ffyrdd newydd o annog pobl i fod yn fentrus wrth ddatblygu busnes. Er bod strwythurau cefnogaeth ar gael nid oes digon o fentergarwch yn blaguro yn ein hardaloedd gwledig. Dylid ystyried sut allwn newid diwylliant a fydd yn arwain at fwy o gyfleoedd entrepreneuriaeth sy’n defnyddio neu’n gweld gwerth yn y Gymraeg.

Argymhelliad 5 – Datblygu Clwstwr Gofal Henoed cynaliadwy – un o’r sectorau sylfaenol sydd dan y straen mwyaf yw’r gwasanaeth gofal henoed. Mae’n angenrheidiol i’r gwasanaeth allu gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae fformat y gwasanaeth wedi dechrau dyddio. Dylid edrych mewn i greu gwasanaeth mwy cynaliadwy sy’n gweithio gyda’n cymunedau i sicrhau caffael mwy effeithiol. Ceir enghreifftiau penodol yn barod o’r gwasanaeth cymunedol yma ar waith mewn cymunedau yng Nghymru ond dylid mynd ati i sicrhau datblygu model fydd yn gweithio ar draws y wlad.

Argymhelliad 6 – Datblygu mwy o gymhwysedd – pe bai modd buddsoddi mwy o amser yn edrych ar ddatblygu gwasanaethau newydd gall y mentrau gynnig mwy o swyddi a gwasanaethau i’r gymuned. Roedd sawl menter â diddordeb mewn sefydlu meithrinfa ond dim digon o gymhwysedd i ddatblygu’r syniad ymhellach, felly dylid edrych ar gynnig cymorth  parhaol i fentrau iaith ehangu ar eu gwasanaethau.

Argymhelliad 7 – Datblygu rhwydwaith o Fentrau Cymunedol – Yn dilyn sefydlu grŵp gweithredol Clwstwr Mentrau Cymunedol roedd yn amlwg bod budd mewn sefydlu rhwydwaith parhaol fydd yn edrych ar warchod buddiannau’r sector a bod yn llais i’r mentrau. O wneud gwaith ymchwil pellach ar y clwstwr mae sefydlu rhwydwaith o ddiddordeb i nifer o fentrau. Dylid penderfynu ar strwythur y rhwydwaith ond mae’n bwysig ei fod yn aros yn dryloyw trwy rannu arferion da a dangos gwerth o weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Argymhelliad 8 – Cynllun mentora Cymreig – Y nod fyddai cydweithio gyda rhanddeiliaid eraill ar gynnig cynllun mentora Cymreig fydd yn helpu mentrau newydd sefydlu ynghyd â helpu mentrau cymunedol i ehangu. Byddai’r cynllun yn defnyddio profiad ac arbenigedd arweinwyr mentrau cymunedol er mwyn helpu’r mentrau a fydd yn y pendraw yn creu cyfleoedd a gwasanaethau newydd yn ein cymunedau. Yr hyn fydd yn gwneud y cynllun hwn yn unigryw yw mentora Cymreig a fydd yn deall union anghenion y cymunedau.

Argymhelliad 9 – Modelau mentrau cymunedol – Dylid edrych mewn ar y posibilrwydd o ddefnyddio modelau llwyddiannus o fentrau cymunedol er mwyn efelychu mewn cymunedau eraill. Dylid defnyddio esiamplau Cymreig sydd wedi llwyddo adfywio economi eu cymunedau trwy waith cymunedol i weld os oes diddordeb gan gymunedau sefydlu menter gymunedol debyg yn eu hardaloedd nhw.

Argymhelliad 10 – Swyddogion Hwyluso Cymunedol – byddai cynllun peilot Hwyluswyr Cymunedol yn edrych am gyfleoedd unigryw economaidd sydd yn bodoli oherwydd y Gymraeg. Mae yna botensial enfawr wrth feddwl am greu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg. Caiff yr hwyluswyr eu lleoli mewn amryw o gymunedau gan helpu a chymwysedd wrth i gynlluniau economaidd ddatblygu megis trwy lunio ceisiadau grant neu / a mireinio cynlluniau busnes. Bydd y gwaith hyn yn gatalydd lleol i greu menter gymunedol newydd a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol.

Argymhelliad 11 – Perchnogaeth Airbnb – Un o’r problemau a godwyd yng nghyd-destun y clwstwr Mentrau Cymunedol oedd y cynnydd mewn daliadau llety Airbnb oedd ar gael yng nghymunedau cynghorau Arfor. Roedd hyn yn bryder i’r clwstwr oherwydd cynifer oedd yn cael ei brynu gan bobl allanol oedd yn effeithio ar oblygiadau tai i drigolion lleol. Dylid edrych ar weithio gyda’r Llywodraeth cyn i’r broblem ddatblygu ymhellach er mwyn sicrhau bod y diwydiant twristiaeth yn gynaliadwy gan warchod buddiannau pobl leol.

Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma.

Share This