Datblygiad economaidd a’r iaith Gymraeg?

by Medi 10, 2020Featured CY, Arfor

Gan Dr Dyfan Powell, Wavehill

Mae’r syniad fod datblygiad economaidd yn creu swyddi ac yn caniatáu i  siaradwyr Cymraeg weithio a byw yn yr ardal[1] yn un sy’n flaenllaw o fewn polisïau economaidd-ieithyddol. Mae’n deillio efallai, o’r naratif hirsefydlog fod datblygiad economaidd a thwf neu hyfywdra ieithyddol yn mynd law yn llaw. Ond, a ydy hyn yn wir? Os ydyw, disgwylir perthynas gadarnhaol rhwng data economaidd a niferoedd o siaradwyr Cymraeg h.y. wrth i newidynnau economaidd gynyddu a chryfhau, dylai niferoedd siaradwyr gynyddu hefyd. Fel rhan o waith ymchwil cyd-destunol ar gyfer rhaglen Arfor, fe graffwyd ar yr ystadegau yma, i geisio deall y berthynas ystadegol rhwng yr economi a’r iaith.[2]

Yn ystod y prosiect, aethpwyd ati, drwy dechnegau econometreg, i geisio archwilio’r rhagdybiaeth hon, ac yn benodol, i archwilio’r berthynas rhwng datblygiad economaidd a thwf neu gynaliadwyedd mewn niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn ardal Arfor. Llusgwyd (lagged) twf GVA o 1 a 2 flynedd ar wahân er mwyn craffu ar unrhyw effeithiau a ohiriwyd,[3] ac fe archwiliwyd ystod eang o newidynnau economaidd ychwanegol hefyd.

Mae sgôr o +1 yn Nhabl 1 isod yn dangos perthynas berffaith rhwng newidynnau, h.y. fod niferoedd siaradwyr a’r GVA yn cynyddu wrth i GVA wneud. Mae sgôr sydd yn agos at sero yn dangos nad oes perthynas ystyrlon rhwng GVA a niferoedd siaradwyr, tra bod sgôr o -1 yn dynodi perthynas negyddol berffaith h.y. wrth i’r GVA dyfu, mae’r nifer o siaradwyr yn gostwng.

Fel a ddengys yn y tabl isod, wedi llusgo twf GVA o flwyddyn, yng Ngwynedd yn unig y gwelwn berthynas arwyddocaol a phositif, er nad yw’n sylweddol. Ond ar y cyfan, ychydig iawn o berthynas gadarnhaol sydd rhwng twf mewn GVA a’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg.

Tabl 1: Cyfernodau Cydberthyniad (Correlation Coefficient) (GVA a siaradwyr Cymraeg)

Sylfaen 1 flwyddyn yn llusgo 2 flynedd yn llusgo
Gwynedd 0.029 0.145 -0.201
Môn -0.522 -0.607 -0.661
Ceredigion -0.325 -0.240 -0.129
Sir Gâr -0.132 -0.089 0.059
Arfor -0.360 -0.264 -0.319

Data: ONS

Yn wir, perthynas negatif sydd i’w weld ar y cyfan h.y. wrth i’r economi gryfhau, mae nifer y siaradwyr yn gostwng. Yn achos Ceredigion a Sir Gâr, mae’r berthynas negyddol hon yn tueddu i wanhau ymhellach dros amser, ond yn Ynys Môn, mae’r berthynas yn gryf, a’r sefyllfa negyddol yn cydgrynhoi dros amser. Adlewyrchir canlyniadau tebyg neu fymryn yn llai negyddol pan gaiff cyflogaeth ei chynnwys fel newidyn yn y dadansoddiad atchweliad.[4]

Er gwaethaf y canlyniadau hyn, dylid dwyn i gof fod cyfyngiadau o ran amser, adnoddau a data i’r astudiaeth. Rhaid nodi natur arbrofol yr ymchwil hefyd, ac i beidio a datblygu casgliadau pellgyrhaeddol neu ysgubol ar ei sail. Dylid ystyried y canlyniadau hyn fel canfyddiadau rhagarweiniol yn unig. Sail ar gyfer ymchwil pellach yw’r gwaith yma.

Serch hynny, mae’r data yn cyflwyno elfennau newydd i’w hystyried tra’n trafod ac astudio’r berthynas rhwng yr economi lleol a hyfywedd yr iaith Gymraeg. Nid yw’r data yn cefnogi’r rhesymeg fod datblygu’r economi, ac yn benodol creu mwy o swyddi a chyflogaeth well, yn gysylltiedig â chynnydd yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg.[5] Mewn gwirionedd, mae’r data yn awgrymu i’r gwrthwyneb; fod y cynnydd economaidd a welwyd yn Ynys Mon, ac i raddau yng Ngheredigion a Sir Gâr ers 2005, yn cyd-fynd â dirywiad yn sefyllfa ieithyddol y Gymraeg.

Rhaid pwysleisio nad yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r awgrym fod datblygiad economaidd yn achosi cwymp yn y nifer o siaradwyr, ond mae perthynas ystadegol rhwng y datblygiad economaidd mewn llefydd fel Ynys Môn a gostyngiad mewn niferoedd siaradwyr. Mae natur y berthynas yna yn un sydd angen ei archwilio a’i deall, os yw gwneuthurwyr polisi am osgoi datblygiadau economaidd sy’n andwyol i’r iaith.

 

 

[1] Ardal Arfor yw Ceredigion, Sir Gar, Gwynedd ac Ynys Mon

[2] Gwnaethpwyd y gwaith ystadegol yma gan John Pritchard

[3] Ni chafodd hyn ei gynnal yn y fformat confensiynol ar gyfer y math hwn o waith, lle gosodir canlyniad atchweliad (regression) i gasgliad damcaniaethol rhagdybiedig. Yn hytrach, dadansoddwyd y data hwn heb ragdybiaethau.

[4] Roedd atchweliad logistaidd o ddata ‘Understanding Society’ ar gyfer 2009-11 yn awgrymu  nad oedd perthynas ystyrlon rhwng weithgarwch economaidd a’r Gymraeg.

[5] Yn wir, doedd yr rhif ‘R’ ddim yn arbennig o uchel ym mhob achos – ond oddeutu 0.5.

Share This