Twrisitiaeth yng Nghymru Wledig? Dyfodol cynaliadwy

by Medi 9, 2020Arfor, Featured CY

Yn sgil Covid mae nifer o heriau wedi codi yng Nghymru wledig yn ystod y misoedd diwethaf ac yn bendant un o’r tensiynau mwyaf yw perthynas cymunedau gwledig â thwristiaeth. Ar ddechrau’r cloi mawr fe gododd tensiynau rhwng nifer o fewn poblogaeth leol wledig Cymru a phobl yn symud i’w hail gartrefi wrth i bobl ddadlau na allai’r gwasanaeth iechyd ddelio gyda’r cynnydd yn y boblogaeth leol.

Wrth i gyfyngiadau lacio a gwledydd datganoledig y Deyrnas Unedig yn penderfynu ar  drywydd ychydig yn wahanol i’w gilydd ail-agorodd y sector twristiaeth yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn daethai negeseuon  o San Steffan yn annog pobl i aros ym Mhrydain neu’r ‘Staycation’ ac wrth i reoliadau cwarantin ddod yn ôl i rym wrth ddychwelyd  o nifer o wledydd Ewrop roedd penderfynu peidio teithio dramor yn cael ei weld fel y penderfyniad doethaf.

Yng Nghymru cafwyd nifer o adroddiadau bod tensiynau’n bodoli, yn enwedig mewn ardaloedd fel Pen Llŷn wwrth i bobl honni nad oedd twristiaid yn parchu rheoliadau Covid Cymru a bod yna elfen o or-dwristiaeth yn bodoli yn yr ardal.

Yn ychwanegol i hyn mae’r tensiynau wedi ail godi’r  ddadl dros ail gartrefi yng Nghymru sy’n creu goblygiadau tymor hir  i brisiau tai ac yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae’n ‘golygu nad yw pobl ifanc yn gallu fforddio prynu tai yn eu milltir sgwâr ac yn rhoi ein cymunedau yn y fantol.’ Fe gyhoeddwyd yn ddiweddar bod bron i 40% o dai gafodd ei brynu yng Ngwynedd y llynedd yn ail gartrefi gydag ardaloedd Chelsea a Westminster yr unig rai â chyfran uwch o ailgartrefi.

Nid yw hyn yn gynaliadwy i gymunedau gwledig yng Nghymru gan greu goblygiadau ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd ond sut ellid creu amodau lle all y sector dwristiaeth  gydfyw gyda’n cymunedau gwledig? Mae yna amryw o opsiynau y gellir eu mabwysiadu ond tra bod ein heconomi gwledig yn ddibynnol ar y sector twristiaeth fel incwm i gynifer o’n busnesau mae’r sector yma i aros.

Draw yn yr Eidal ac yn benodol Rhanbarth Almaeneg, De Tyrol mae arweinwyr gwleidyddol wedi gwahardd pobl tramor a phobl o ardaloedd arall o’r Eidal rhag prynu tai haf yn gyfan gwbl. A yw hyn yn broses all cael ei weithredu yn ein hardaloedd gwledig? Yn sicr bydd yn rhoi mwy o reolaeth i’r gymuned yn y sector, wrth alluogi pobl leol i gael mwy o reolaeth ar dwristiaeth a lletya yn fwy penodol. Ond a fydd hyn yn sicrhau bod prisiau tai yn aros yn rhesymol ac ar gael i deuluoedd ifanc. Mae rhai cymunedau yng Nghernyw wedi cymryd cam tebyg wrth wahardd pobl allanol rhag prynu tai newydd ond mae’n rhy gynnar  i fesur canlyniad y polisi ar argaeledd tai fforddiadwy yn yr ardaloedd hynny.

Yng Nghymru, mae mwy o bwyslais wedi ei roi ar drethi’n uwch perchnogion ail gartrefi gyda Chyngor Gwynedd yn rhoi premiwm o 50% a Chyngor Ynys Môn yn codi premiwm o 25% ar dreth cyngor ail gartrefi. Ond ceir rhai problemau gyda’r polisi trethi wrth i berchnogion allu cofrestru ei hail gartrefi fel busnesau ac osgoi talu premiwm wrth i’r tai cael ei rhoi ar y marchnad Airbnb, sydd yn sgil effeithiau bellach i gymunedau.

Nid oes rhaid i’r newidiadau yma fod mor chwyldroadol â’r rhai sydd wedi eu trafod uchod, ond gellid edrych ar ba ddelwedd rydym yn defnyddio i hyrwyddo’r ardaloedd yma i weddill y byd. Yn y gorffennol wrth geisio cysylltu Cymru gyda diffeithwch gwyllt lle gellir dianc rhag bwrlwm dinasoedd, prin iawn yw cymuned a’i phobl fel rhan weledol o’r ddelwedd.. Os ydym yn dymuno i dwristiaid i ddeall Cymru Wledig yn well a ddylwn dangos eu cymunedau byrlymus ynddo yn hytrach na mynyddoedd a thraethau gwag? Mae Cwmni Dolan yn credu hynny, gan nodi eu bod eisiau creu a hyrwyddo twristiaeth gymunedol a fydd ‘yn creu enillion yng nghydlyniant ein cymuned ac yn yr economi leol.’

Mae’n bosib ein bod wedi codi mwy o gwestiynau wrth geisio trafod sut ellid creu twristiaeth fwy cynaliadwy i’n gymunedau gwledig, nid ydym yn gwybod yw’r beth yw’r atebion eto ond yn sicr mae trafodaeth dros berthynas twristiaeth a Chymru wledig angen cael ei chynnal ar lefel llywodraethol yn enwedig yng ngoleuni’r pryderon sydd wedi codi dros y mis

Share This