Pam fod pobl ifanc yn allfudo?

by Medi 2, 2020Arfor, Featured CY

Gan Dr Dyfan Powell, Wavehill

Mae ystadegau’r ONS yn dangos fod miloedd o bobl ifanc yn gadael ardal Arfor[1] bob blwyddyn. Dyma un o wendidau strwythurol economi’r ardal. Mae’r bobl ifanc yma yn weithgar yn economaidd ac, fel unigolion sydd wedi eu magu yn yr ardaloedd, yn debygol iawn o fod yn siaradwyr Cymraeg. Mae’r golled i’r ardal yn un economaidd ac ieithyddol, ac mae blog blaenorol a gyhoeddwyd ar ein gwefan wedi archwilio ystadegau ymfudo mewnol, gan nodi fod oddeutu 8,000 o bobl rhwng 16 a-24 oed wedi gadael ardal Arfor yn 2017-18, tra bod tua 7,000 wedi mewnfudo i’r ardal.

Er bod yr ystadegau yn ein helpu i ddeall patrymau mudo dros y blynyddoedd, gan gynnwys manylder ar gyrchfannau unigolion (tua dau draean yn mynd i Loegr), ychydig o waith ymchwil sydd ar gael ynghylch rhesymau a motifau pobl ifanc dros adael ardal Arfor. Mae Jones (2010) yn cynnig fod yr rhan fwyaf o unigolion fu’n gadael cadarnleoedd gorllewin Cymru yn gwneud am rhesymau yn ymwneud â chyflogaeth. Mae gwaith Jones yn atseinio ymchwil Blackaby a Drinkwater o’r 1990au, fu’n cynnig dadl debyg, gan ymhelaethu drwy astudio llwyddiant siaradwyr Cymraeg sydd wedi symud i dde-ddwyrain a gogledd-ddwyrain Cymru.

‘It seems likely that many well-qualified individuals from west Wales have moved to larger cities because of the lack of suitable employment opportunities in rural areas… For whatever reason, Welsh-speakers appear to do better in the Welsh labour market than their non-Welsh-speaking counterparts.’ (Blackaby & Drinkwater, 1997: 167-168)

Dyma stori gyfarwydd i’r rheini sy’n ymddiddori yn y maes, y naratif o bobl ifanc ardaloedd gwledig Cymru yn symud i gael swydd yn y ddinas. Mae’n bwysig parchu a derbyn canfyddiadau’r gwaith ymchwil yma.

Ond, yn fwy diweddar, mae’r ddamcaniaeth bur-economaidd yma wedi cael ei herio. Mae gwaith diweddar Cunnington-Wynn (2018), yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau gyda phobl ifanc mewn trefi gorllewinol a gogleddol, yn casglu fod rhesymau a motifau ymfudo pobl ifanc yn amlhaenog a chymhleth. Er bod rhesymau economaidd a chyflogaeth yn cael eu crybwyll gan bobl ifanc, roedd rhain yn rhai arwynebol, tra bod materion ynghylch hunaniaeth a’r ymdeimlad o berthyn yn ystyriaethau dwys iddynt.

‘Darganfu’r ymchwil fod allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg yn ddibynnol ar nifer o ffactorau cymhleth ac amlhaenog, ac nid yw’n atgyfnerthu gwaith Jones (2010) sy’n datgan bod pobl ifanc yn symud o’r cymunedau traddodiadol ‘Cymraeg’ am resymau economaidd yn unig. Yn wir, darganfu i’r gwrthwyneb, sef bod dewisiadau’r bobl ifanc hyn yn ddibynnol ar eu hymdeimlad o berthyn a’u patrymau integreiddio i’r cymunedau dan sylw. Yma, ceir trafodaeth ar bwysigrwydd ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg, diwylliant a chenedligrwydd mewn perthynas â’u hymdeimlad o berthyn a’u patrymau integreiddio.’ (Cunnington-Wynn, 2018: 60)

Mae’r canfyddiadau yma yn agosach i ymchwil ehangach ar ymfudo ac allfudo gwledig, sy’n derbyn fod ffactorau ehangach a mwy cymhleth na chyflogaeth yn unig yn gyrru pobl ifanc i adael yr hardaloedd lle cawsant eu magu. Mae’r ymchwil ehangach yma’n cyfeirio at natur ceidwadol a phatriarchaidd cymunedau gwledig, a’r tuedd i fenywod allfudo lle bo cyfle (h.y. os nad ydynt yn gofalu am eraill).[2] Mae gwaith ymchwil diweddar, yn ogystal â’r gwersi a ddaw o’r llenyddiaeth ehangach ar allfudo yn dangos yr angen am fwy o graffu ac ymchwil i ddeall rhesymau allfudo pobl ifanc, ac i beidio derbyn y naratif mai am rhesymau cyflogaeth yn unig y mae pobl ifanc yn gadael ardal Arfor.

Mae goblygiadau polisi clir i graffu ar yr amryw ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewis ein pobl ifanc am adael ardal Arfor. Mae’r ymateb polisi i’r golled o bobl ifanc dros y degawdau wedi ffocysu ar geisio creu mwy a gwell swyddi, mewn ymgais i berswadio pobl ifanc i beidio â gadael. Ond os yw’r bobl ifanc yma’n gadael am rhesymau eraill, rhesymau yn ymwneud â diwylliant neu hunaniaeth, yna mae’n debyg nad yw cynnig mwy o swyddi’n yn fodd effeithiol o wireddu’r amcan yma.

[1] Arfor yw rhanbarth o siroedd Sir Gar, Ceredigion, Ynys Môn a Gwynedd

[2] Yn wir, mae cip ar ffigurau allfudo yr ONS yn cynnig fod mwy o fenywod 16-24 yn gadael ardal Arfor bob blwyddyn nag o ddynion. Ers 2012, fe allfudodd 15,546 o ddynion 16-24 ond 17,121 o fenywod.

Share This