Beth yw Amaethyddiaeth Adfywiol a’i budd i Gymru?

Mawrth 2021 | O’r pridd i’r plât, Sylw

bokeh photography of person carrying soil

Gan fod amaethyddiaeth yn cael ei gysyllytu fel un o’r elfennau sy’n cyfrannu fwyaf at newid yn yr hinsawdd, mae angen dull gweithredu ledled Cymru i ddiwygio’r diwydiant a’n perthynas â’n cadwyn cyflenwi bwyd. Mae effeithiau amgylcheddol mae amaethyddiaeth fodern ar fywyd gwyllt a’r cysylltiad rhwng porthiant da byw a datgoedwigo coedwig law America yn bryderus. Fodd bynnag, un ateb posibl yw defnyddio’r system amaethyddol adfywiol fel rhan o’n hegwyddorion ffermio i greu Cymru’n cenedl sy’n arwain y byd mewn amaethyddiaeth gynaliadwy.

Mae amaethyddiaeth agroecolegol neu adfywiol yn sicrhau mai ffermwyr sy’n gyfrifol am reoli sut y maent am ffermio eu tir yn gynaliadwy. Cred y ddamcaniaeth wrth wraidd ffermio adfywiol fod gan amaethyddiaeth rôl yn y gwaith o adsefydlu a gwella’r ecosystem gyfan drwy weithio’n agos gyda’r broses o reoli pridd a dŵr.[1] Gellir dilyn y dulliau hyn gyda egwyddorion megis:

Lleihau aflonyddu ar bridd – Mae gwrtaith ac aredig tir yn barhaus wedi gwanhau ffrwythlondeb y tir. Drwy aflonyddu ar bridd cyn lleied â phosibl, mae gan yr ecosystem gyfle i ffynnu a chreu cnydau iachach.

Cadw pridd wedi’i orchuddio – Bydd cadw’r pridd wedi’i orchuddio am y rhan fwyaf o’r flwyddyn yn sicrhau amddiffyniad rhag erydiad gwynt a dŵr ac yn atal hadau chwyn rhag egino.

Amrywiaeth o blanhigion neu gnydau – Mae cynyddu’r amrywiaeth o gnydau ac anifeiliaid yn y system yn lleihau pwysau plâu a chlefydau gan gefnogi bioamrywiaeth a gwella iechyd pridd ar yr un pryd. Yng Nghymru mae gwaith eisoes yn cael ei wneud megis gyda sefydliad Gaia a’r ffermwr Gerald Miles sy’n ymdrechu i ddefnyddio hadau a grawn mwy brodorol sy’n gynaliadwy i’n tir er mwyn hybu amrywiaeth grawn mewn cyfnod o argyfwng.

Integreiddio da byw – Mae defnyddio da byw ar dir âr yn darparu tail organig ac yn annog planhigion newydd i dyfu sydd yn y pen draw yn pwmpio mwy o garbon i’r pridd.  Mae angen i ffermwyr droi cefn ar dda byw sy’n cael eu bwydo â grawn a’u magu’n ddwys ac sy’n defnyddio traean o’r holl rawnfwyd sy’n cael ei gynhyrchu os ydym am gynnwys cig fel rhan o gadwyn fwyd gynaliadwy yng Nghymru.[2] Mae 80% o dir fferm Cymru yn dir âr felly mae defnyddio gwartheg a chig oen sy’n bwyta glaswellt yn hanfodol er mwyn i’r diwydiant yng Nghymru greu cynnyrch cynaliadwy.[3] Fodd bynnag, mae creu ardaloedd bach o dir garddwriaethol yn hanfodol ac yma yng Nghymru mae’n rhaid i ni gynyddu nifer y ffermydd sy’n tyfu ffrwythau a llysiau i’r boblogaeth leol. Mae Our Food yn Sir Fynwy yn arwain y ffordd yng Nghymru drwy hyrwyddo a chefnogi ffermwyr sy’n defnyddio’r dulliau hyn gan gynyddu bioamrywiaeth, gwella priddoedd a chyflenwadau dŵr, dal carbon a chadw plâu a chlefydau mor isel â phosibl.

Mae’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yn credu bod yn rhaid i ni fabwysiadu’r dulliau hyn a phrif egwyddorion agroecolegol eraill megis lleihau maint daliadau a fyddai o fudd i ffermwyr Cymru gan eu bod yn tueddu i fod yn llai na rhai gweddill y DU.[4]  Daw Llywodraeth Cymru i’r casgliad hefyd fod angen anelu eu polisïau a’u mentrau amaethyddol at adfer bioamrywiaeth yn ei hadroddiad diweddaraf Cynllun Ffermio Cynaliadwy: adfer bioamrywiaeth. Ond mae’r Gynghrair Polisi Bwyd yn mynnu bod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd mewn amaethyddiaeth a chymhwyso dulliau agroecolegol i’r diwydiant.

Gall dulliau adfywio greu effaith hirdymor ar gymunedau gwledig drwy greu cadwyn cyflenwi bwyd lai a thaith bwyd fyrrach. Mae’r dull hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i’r cynhyrchydd sydd yn y pen draw yn creu busnes mwy proffidiol. Er mwyn i amaethyddiaeth Cymru fynd i’r afael â’r bygythiad o newid yn yr hinsawdd, efallai mai hyrwyddo amaethyddiaeth adfywiol yw’r ffordd ymlaen i’r diwydiant ffynnu yn y Gymru wledig.

 

[1] https://www.climaterealityproject.org/blog/what-regenerative-agriculture

[2] https://www.independent.co.uk/life-style/food-and-drink/british-farmers-producing-top-quality-food-taking-intensive-farming-veganism-a8851606.html

[3] https://eatwelshlambandwelshbeef.com/cy/beth-yw-pgi/amgylchedd/

[4] https://ffcc.co.uk/assets/downloads/FFCC_Farming-for-Change_January21-FINAL.pdf

[4] https://senedd.wales/research%20documents/16-053-farming-sector-in-wales/16-053-web-welsh2.pdf t3

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This