Ai’r swyddfa wledig yw’r dyfodol?

Chwefror 2021 | Polisi gwledig, Sylw

Gan Aled Rhys Jones, sylfaenydd AR Y TIR

Rwy’n cofio cael cerdyn busnes tua phum neu chwe blynedd yn ôl na fyddaf fyth yn ei anghofio. O dan ‘Cyfeiriad’ roedd y geiriau syml, “unrhyw le lle mae Wi-Fi”. Ar y dechrau, roeddwn i’n meddwl bod y peth yn ddoniol ond buan y sylweddoles i fod mwy i hyn. Efallai y bydd Covid-19 yn cael y bai (neu’r clod) am droi’r ffordd rydyn ni’n gweithio wyneb i waered, ond gosodwyd y sylfeini ar gyfer newid ymhell cyn hyn.

Mae siopau coffi sydd â Wi-Fi am ddim wedi bod yn hafan i weithwyr proffesiynol a gweithwyr llawrydd ers amser maith, fel lleoliadau gwaith hyblyg. I lawer, gall plannu eich hun mewn amgylchedd prysur lle mae eraill yn gweithio, wella cynhyrchiant. Ac, mae amgylchedd gwaith gwahanol yn annog ysbrydoliaeth ac yn ysgogi syniadau newydd. Dros y deuddeg mis diwethaf, rydyn ni i gyd wedi gweld newidiadau i’n hamgylcheddau gwaith. Mae rhai wedi cofleidio cyfleustra gweithio gartref, tra bod eraill wedi dyheu am strwythur y cymudo beunyddiol.

Er bod technoleg cyfathrebu-o-bell wedi bodoli ers blynyddoedd, mae wedi cymryd digwyddiad gorfodol sy’n tarfu, fel Covid, i’n gwthio ni dros drothwy hyder a chynefindra. Rwy’n siŵr nad ydym byth yn gwbl gyffyrddus â gweld ein hwyneb ar y sgrin, ond mae’n ein digalonni lawer yn llai erbyn hyn. Ac, yn y dyfodol, byddwn yn cwestiynu mwy – “a oes angen i’r cyfarfod hwn fod wyneb-yn-wyneb?”.

Rwy’n hyderus y byddai’r newid hwn wedi digwydd beth bynnag, i raddau helaeth, gyda phwysau i leihau teithio yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac ati. Yr hyn y mae Covid wedi’i wneud yw cyflymu’r newid.

Felly, wrth i’r golau ddod i’r amlwg ar ddiwedd twnnel hir a thywyll, mi fydd newidiadau parhaol yn ein dulliau o weithio. Nid yw’n syndod nad yw’r mwyafrif o weithwyr sy’n gweithio gartref eisiau dychwelyd i’r swyddfa yn llawn-amser. Ymddengys mai cyfuniad o waith gartref a gwaith swyddfa yw’r ateb. Ond, mae’n ddigon posib mai gwaith ‘mewn swyddfa’ yn hytrach nag yn ‘y swyddfa’ fydd y dyfodol.

Wrth i gwmnïau mawr daclo’r drafodaeth ynghylch yr angen am eu blociau swyddfa costus yng nghanol y ddinas, ai hybiau cydweithio gwledig yw’r ateb? Gallai gofod a rennir ar gyfer ystod eang o weithwyr busnes proffesiynol fod yn ateb cost-effeithiol a phoblogaidd. Yn  bersonol, rwyf wedi colli’r creadigrwydd sy’n tanio pan fyddwch chi’n cwrdd ag eraill ac yn gweithio o amgylch eraill, a byddwn yn neidio ar y siawns o weithio mewn swyddfa wledig gyfoes gyda gweithwyr proffesiynol eraill.

Gall cyflymderau band eang fod yn broblem mewn rhai ardaloedd ond, os caiff y mater hwn ei ddatrys, gallem weld cynnydd yn y swyddfa wledig a byddai cefn gwlad yn fwrlwm o weithgarwch economaidd.

Mae’r defnydd o dechnoleg wedi gwneud inni sylweddoli (a) y gallwch weithio unrhyw le a (b) y gallwch weithio i gleientiaid neu gwmnïau yn unrhyw le. Os ydych chi’n gwmni sy’n croesawu gweithio hyblyg, fe allech chi recriwtio o gronfa lawer ehangach o ymgeiswyr a pheidio â chael eich cyfyngu gan agosrwydd daearyddol i’ch swyddfa. Meddyliwch am y cyfleoedd. Fel perchennog busnes, rwy’n llawn cyffro wrth feddwl am y cyfleodd i gynnig fy ngwasanaethau proffesiynol i gleientiaid ledled y byd.

Aled Rhys Jones yw sylfaenydd AR Y TIR – llwyfan a busnes cynghori annibynnol sy’n rhoi cymorth ymarferol a strategol i amrywiaeth o gleientiaid sydd â chysylltiad at dir ac eiddo gwledig. Ewch i’w gwefan i gael mwy o wybodaeth – www.ontheland.co.uk

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This