Bro360 yn dathlu dwy flynedd o wneud gwahaniaeth

Chwefror 2021 | Arfor, Sylw

bird's eye photography of sea waves on seashore

Mae saith cymdogaeth – sy’n cynnwys tua 91,000 o bobol – yn rhan o brosiect Bro360 sef cynllun i greu gwefannau bro ar draws Cymru. Mae’r gwefannau’n allweddol wrth i’r cynllun geisio helpu i dynnu cymdogaethau at ei gilydd, hybu gweithgarwch lleol a chryfhau gwytnwch y gymdeithas.

Mae’r saith gwefan yn cynrychioli ardaloedd a chymunedau o fewn Arfon a Cheredigion gan rannu’r newyddion diweddaraf am eu hardaloedd. Mae’r saith gwefan yn cynnwys:

Caernarfon360
DyffrynNantlle360
BroWyddfa360
Ogwen360
BroAber360
Clonc360
Caron360

Mae’r gwefannau yn rhan o’r ymdrech i weld a oes modd ffurfio rhwydwaith cenedlaethol o wefannau tebyg. Yn yr ychydig fisoedd cyn Covid, dangosodd y gwefannau eu gwerth, gyda blogiau byw, fideos, lluniau a straeon yn dod â digwyddiadau’n fyw mewn ffordd newydd ac yn ystod y pandemig rydym wedi llwyddo i  gyrraedd cynlleuidfaoedd newydd a llenwi’r bwlch ar straeon lleol.

Yn ddiweddar, mae’r cynllun hefyd wedi meithrin gohebwyr ifanc gan greu cwrs oedd yn rhoi’r hyder, y gallu, a’r awydd i’r criw o ddarpar-ohebwyr fynd allan i adrodd ar straeon sy’n bwysig i’w bröydd nhw. Hefyd mae’r cynllun wedi llwyddo i gefnogi papurau bro yn ystod y cyfnod yma a rhedeg prosiectau penodol megis cefnogi pobl i siopa’n lleol.

Mae’r weledigaeth o greu straeon gan y gymuned ar gyfer y gymuned yn hynod o bwysig i’r cynllun a bydd yn ddiddorol i weld sut mae’r cynllun yn datblygu gwefannau i gymunedau newydd wrth gryfhau defnydd y Gymraeg ac ymwybyddiaeth pobl o’i bröydd.

>GWELER ADRODDIAD LLAWN Y CYNLLUN YMA<

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This