Adferiad Gwyrdd: Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu

Chwefror 2021 | Polisi gwledig, Sylw

seashore during daytime

Mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad Adferiad Gwyrdd: Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu ar ran grŵp gorchwyl a gorffen Adferiad Gwyrdd. Mae’r adroddiad yn ffocysu ar beth all gael ei gyflawni yn y tymor byr, gan ddefnyddio arloesedd ynghyd ag adnabod mwy o newidiadau canolig y dylai Llywodraeth Cymru ei archwilio i greu Cymru fwy gwyrdd.

Wrth adnabod ystod o gynigion i’w cyflwyno ar frys, mae’r grŵp gorchwyl a gorffen Adferiad Gwyrdd wedi amlygu bod newid yn medru digwydd yn sydyn, a gellir prosiectau a chynlluniau gweithredu fel camp gellir eraill ei efelychu. Agwedd allweddol o’r adroddiad yw’r broses o ryddhau ‘cymunedau o ddiddordeb’ er mwyn galluogi cymunedau i weithredu eu hunain.

Mae’r adroddiad yn trafod y prif faterion y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â nhw fel rhan o adferiad gwyrdd, a prif bynciau’r adroddiad yn cynnwys:

  • Adeiladu gwytnwch yn system fwyd Cymru a thyfu bwyd yn lleol.
  • Creu cyfleoedd twristiaeth natur yn gysylltiedig â mwy o ddiddordeb mewn natur a’r amgylchedd.
  • Datblygu modelau ariannol amgen ac angen i gymell buddsoddiad yn yr adferiad gwyrdd.

Mae’r adroddiad yn nodi na fydd newid cynyddrannol yn ddigon i yrru’r newidiadau systemig a thrawsnewidiol sydd eu hangen ar gyfer adferiad cymdeithasol gyfiawn a gwyrdd, ac mi fydd yn ddiddorol gweld sut bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r adroddiad a’i effaith ar Gymru wledig.

>GWELER ADRODDIAD LLAWN YMA<

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This