CLlLC yn lansio Gweledigaeth ar gyfer Cymru Wledig

by Featured CY, Rhwydwaith Gwledig Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru wedi lansio ei gweledigaeth ar gyfer Cymru wledig er mwyn mynd i’r afael a’r heriau a chyfleoedd sy’n wynebu’r ardaloedd hynny. Mae’r maniffesto yn amlinellu saith galwad allweddol gan Fforwm Wledig CLlLC sydd yn cynnwys y naw o awdurdodau gwledig Cymru, i gefnogi cymunedau bywiog a deinamig ar draws Cymru wledig. Mae’r saith galwad yn gofyn am:

  • Gefnogi arallgyfeirio’r sylfaen economaidd wledig a mabwysiadu dull economi gylchol o ymdrin â chynhyrchion gwledig naturiol.
  • Greu rhaglen ieuenctid wledig wedi’i thargedu i fuddsoddi, uwchsgilio a chadw pobl ifanc ddisglair a thalentog mewn cymunedau gwledig.
  • Ychwanegu gwerth at seilwaith gwledig.
  • Sicrhau sector dwristiaeth gynaliadwy sy’n cefnogi cymunedau, busnesau a phobl leol.
  • Teilwra polisïau tai i adlewyrchu anghenion y gymuned leol.
  • Buddsoddi mewn trefi gwledig clyfar a ffyniannus.
  • Adeiladu cyfoeth cymunedol a mynd i’r afael a’r Canol Coll o fewn economi Cymru.

Mae’r weledigaeth a gaiff ei hamlinellu yma’n cynnwys cynigion polisi ar gyfer yr economi wledig sy’n ceisio gwella ac ategu polisi amaeth yn y dyfodol drwy fynd i’r afael â’r ystod gymhleth o heriau a nodwyd gan aelodau’r Fforwm. Ceir hefyd llawer o bwyslais ar yr economi gylchol a sylfaenol fel ffordd o adfywio’r economi wledig.

Mae’r maniffesto wedi ei lunio mewn pryd ar gyfer etholiadau’r senedd eleni wrth amlygu pwysigrwydd cymunedau gwledig i Gymru a bydd yn ddiddorol gweld sut all y weledigaeth gael ei gweithredu fel rhan o gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru.

>MAE’R GWELEDIGAETH LLAWN YMA<

Share This