Twf mewn cadwyni cyflenwi llaeth lleol yng Nghymru wledig

Ionawr 2021 | Polisi gwledig, O’r pridd i’r plât, Sylw

person pouring milk on clear drinking glass

Ar ddechrau’r pandemig fe welwyd nifer o luniau o ffermwyr llaeth yn gwaredu tunelli o’u cynnyrch oherwydd cwymp yn y galw wrth i’r diwydiant lletygarwch gau dros nos. O ganlyniad i hyn a ffactorau eraill, fe ddatblygodd ffenomena tawel yng nghefn gwlad wrth i gynhyrchwyr llaeth ddatblygu amryw o fentrau newydd i gyflenwi eu cynnyrch i’w milltir sgwâr.

Yn ôl ymchwil diweddar cafodd dros 50% o fusnesau’r diwydiant llaeth eu heffeithio gan y feirws a arweiniodd nifer o ffermwyr i edrych ar ffyrdd mwy cynaliadwy o werthu llaeth. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae dros 15 fusnesau newydd gwahanol wedi eu sefydlu mewn cymunedau ar draws Cymru yn gwerthu eu cynnyrch ar glos y ffarm, trwy archeb neu beiriannau gwerthu pwrpasol.

Mae datblygu’r mentrau newydd yn golygu bod y ffermydd llaeth yn medru cael mwy o reolaeth dros eu cynnyrch sydd â goblygiadau pellach i’r gymuned a’n hamgylchedd. Trwy leihau’r gadwyn gyflenwi mae’r busnesau yma’n sicrhau taw nhw sy’n rheoli pris eu cynnyrch ac nid archfarchnadoedd cadwyn. Mae hefyd yn cryfhau’r economi leol a’r economi gylchol wrth i unrhyw elw mwy na thebyg aros yn y gymuned a’r boblogaeth leol wrth gefnogi eu busnes lleol.

Fe ddechreuodd Fferm Meillionen ger Llandysul fenter debyg yn Mawrth 2019 er mwyn medru cael pris tecach am ei llaeth wrth werthu cynnyrch o safon uchel, ac mae’r busnes hefyd yn gweld gwerth amgylcheddol o gyflenwi ei llaeth yn uniongyrchol i’r defnyddiwr

“Fe benderfynon ni defnyddio poteli gwydr i werthu’r llaeth ac yn eu hail ddefnyddio. Mae hyn wedi lleihau’r defnydd o blastig gan ein cwsmeriaid yn fawr iawn. Rydym hefyd yn ymdrechu i ddefnyddio prosesau a deunyddiau sy’n garedig i’r amgylchedd. Mae gennym ni fwy o reolaeth dros hyn ble nad oedd gennym gyda’r broses flaenorol.”

Er bod Ffarm Meillionen yn parhau i anfon y mwyafrif o’i llaeth i ffatri prosesu caws lleol, mae prynu eich llaeth o  fenter lleol fel hon â gwerth amgylcheddol bellach wrth i’r cynnyrch greu llai o filltiroedd bwyd a chael ei ffermio gan ddefnyddio proses wedi’i seilio ar laswellt.

Mae nifer wedi arallgyfeirio eu busnesau trwy’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu menter newydd, ac mae’n dangos bod natur y diwydiant yn datblygu sgiliau entrepreneuriaid yn naturiol wrth i ffermwyr  arallgyfeirio er mwyn goroesi.

Un agwedd mae’r mentrau llaeth wedi dangos yw’r galw sydd wedi datblygu am gynnyrch llaeth lleol, mae nifer o’r busnesau wedi datblygu brand lleol dwyieithog sy’n hyrwyddo’r  defnydd o hunaniaeth economeg i gryfhau’r economi lleol, ac wrth edrych i’r dyfodol o gynhyrchu llaeth lleol mae Llaeth Meillionen yn cytuno:

“Yn gyffredinol dwi’n gobeithio y bydd ‘na symudiad gan y cyhoedd i gefnogi busnesau lleol ac i brynu cynnyrch yn fwy lleol. Mae yna werth mawr i ddefnyddio’r Gymraeg i fusnesau cefn gwlad a dwi’n credu’n gryf bod gennym gynnyrch yma yng Nghymru, sydd gyda’r gorau yn y byd.”

Yn sicr mae’r twf yn y nifer o ffermydd sydd wedi penderfynu dechrau gwerthu cynnyrch ei hun yn dangos sut mae modd cymryd mwy o reolaeth dros y diwydiant ond hefyd mae’n dangos y potensial o greu cadwyn gyflenwi bwyd sy’n gynaliadwy ac o fewn gafael y boblogaeth leol.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This