Beth yw Arfor?

by Gor 24, 2020Arfor, Featured CY

Mae Arfor yn rhwydwaith economaidd-gymdeithasol o bedair sir yng Nghymru, a fydd yn cydweithio er lles a dyfodol yr iaith Gymraeg.  Mae’r cysyniad wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd, yn bennaf gan lunwyr polisi a chynllunwyr iaith, a bydd yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.

Gyda seilwaith gwael a chanran uchel o boblogaeth y siroedd yn byw mewn ardaloedd gwledig, ystyrir Arfor yn ateb i dwf yn yr economi, gan gynnig swyddi cynaliadwy o ansawdd, er mwyn annog y genhedlaeth iau i aros yn yr ardal a defnyddio’r Gymraeg fel iaith gymunedol i sicrhau ei dyfodol.

Y gobaith yw y bydd Arfor yn creu amodau ffafriol i’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd traddodiadol, gan ysgogi’r cysylltiad rhwng cymunedau Cymraeg ac economi sy’n ffynnu.

Yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sicrhawyd £2 filiwn ar gyfer cam un y rhaglen.  Cyngor Gwynedd sy’n arwain y rhaglen ar hyn o bryd ac mae’r holl awdurdodau lleol perthnasol yn cyfrannu ati.

Mae rhaglen Arfor  yn gronfa arloesi a bydd yn helpu i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Drwy ymgysylltu â’r llywodraeth, gall y rhaglen helpu i greu mwy o swyddi o safon yn y meysydd allweddol hyn, gyda chysylltiad â’r Gymraeg er mwyn hybu gwytnwch a thwf.

Mae prosiectau llwyddiannus y gronfa arloesi ar waith ar hyn o bryd gyda’r pedwar awdurdod lleol yn gweithio’n agos gyda sectorau penodol:

  • Sir Gaerfyrddin: Mae pecyn cymorth ariannol ar gyfer busnesau yn bodoli yn Sir Gaerfyrddin sy’n targedu’r sectorau bwyd a chreadigol.
  • Ceredigion: Bydd y gronfa yn weithredol ar draws Ceredigion drwy ddau becyn cymorth ‘Dechrau Busnes’ a ‘Mynd am Dwf’. Mae hyn i gefnogi mentrau mewn nifer o sectorau er mwyn hyrwyddo mentergarwch, creu swyddi a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  • Gwynedd: Bydd nifer o brosiectau’n cael eu datblygu i gefnogi’r broses o greu swyddi, sy’n cynnwys cefnogi twf busnesau mewn cymunedau er mwyn parhau i fuddsoddi’n lleol.
  • Ynys Môn: Byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg, yn cefnogi mentrau i dyfu ac yn annog pobl ifanc i aros neu ddychwelyd i’r ynys.
Share This