Defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’ch busnes

Gorffennaf 2020 | Arfor, Sylw

Defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’ch busnes

A hithau eisoes yn iaith fyw ac yn ffynnu mewn llawer o gymunedau, mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio gan amrywiaeth o fusnesau, nid yn unig yn y gweithle, ond wrth greu cynnyrch a darparu gwasanaethau hefyd. Mae’n rhan annatod o’r cynnig busnes.

Enghraifft dda o’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n effeithiol ym myd busnes yw Cwmni Bro Ffestiniog sy’n cydweithio’n agos â’r gymuned i ddeall ei hanghenion a’i gwasanaethau.  Wrth ddatblygu economi sylfaenol gref ym Mlaenau Ffestiniog a chymunedau cyfagos, mae gan y busnes y potensial o gael ei ddefnyddio fel model effeithlon ar sut y gall menter gymdeithasol ddylanwadu ar yr economi leol a chynnig cyfleoedd cynaliadwy am swyddi i’r boblogaeth leol.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn eu hastudiaeth achos:

 

Yn ôl papur ymchwil Comisiynydd y Gymraeg, Y Gymraeg yn y fasged siopa, mae 68% o ddefnyddwyr yn hoffi gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio ym myd busnes. Mae’r iaith yn cael ei hystyried yn wasanaeth hyfyw a all fod o fantais i’ch busnes.

Mae canolfannau diwylliannol yn defnyddio’r gwasanaethau ieithyddol hyn ar draws Cymru drwy gysylltu’r diwylliant unigryw â gwasanaethau a chynhyrchion eraill. Er enghraifft, mae’r Galeri yng Nghaernarfon wedi gallu cynnig y gwasanaethau hyn a dod yn ganolbwynt digwyddiadau yn ardal Arfon.

Mae gwaith Galeri hefyd wedi cyfrannu at adfywio stryd fawr Caernarfon drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r dref hanesyddol. Dyma gipolwg ar waith Galeri Cyf:

 

Mae’r iaith Gymraeg yn ffordd bwysig i fusnesau allu rhyngweithio, sefydlu eu hunain o fewn cymunedau a helpu i gryfhau’r economi leol ei hun. Mae gwaith ymchwil a gynhelir gan 4CG yn Aberteifi yn nodi bod pob £100 sy’n cael ei wario yn yr economi leol, ar gyfartaledd, yn creu £600 arall, tra mae gwario’r un swm mewn archfarchnadoedd ond yn cyfrannu 25c i’r economi leol.

Mae Partneriaeth Ogwen wedi gweithio’n galed ar gryfhau’r bunt leol ac wedi datblygu rhwydwaith menter gymdeithasol sy’n gweithio’n agos gyda busnesau lleol, gan gynnig cyfleoedd a gwasanaethau i’r ardal leol. Gallwch glywed mwy am waith Partneriaeth Ogwen yma:

 

Dim ond enghraifft fach o botensial yr iaith pan gaiff ei defnyddio fel rhan o’ch busnes a’i heffaith hirdymor ar yr economi leol a rhagolygon swyddi’r boblogaeth leol yw’r astudiaethau achos hyn. Mae angen mandad clir ar sut mae’r byd busnes yn buddsoddi yn yr iaith Gymraeg er mwyn i’r Gymraeg ffynnu fel iaith fyw a chael ei defnyddio ym mhob rhan o fywyd.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This