Beth yw Marchnad Lafur Cymraeg?

by Gor 24, 2020Arfor, Featured CY

Prosiect peilot yw Marchnad Lafur Cymraeg sy’n ceisio datblygu’r Gymraeg fel catalydd i’r economi.

Ariannwyd y prosiect i ddechrau drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ei nod yw archwilio ffyrdd o ymgysylltu â sectorau a chwmnïau amrywiol sydd â’r potensial o ddatblygu gwasanaethau a chynnyrch sy’n defnyddio sgiliau’r Gymraeg.

Ar ddechrau’r prosiect, lluniodd y tîm gweithio ymchwil helaeth er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng iaith ac economi a pherthnasedd hynny i ardaloedd gwledig yng Nghymru.

O’r gwaith ymchwil hwn a’r cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid perthnasol, roedd yn amlwg y byddai’r prosiect yn edrych ar yr economi leol yn bennaf er mwyn cael mwy o effaith yn ystod y cyfnod byr o amser a neilltuwyd i’r prosiect.

Datblygodd y prosiect dri chlwstwr peilot a fyddai’n gweithredu fel dangosyddion wrth brofi gwerth yr iaith i’r economi a’i photensial o greu swyddi gyda sgiliau iaith Gymraeg.

Cynhaliwyd gwaith ymchwil ar nifer o sectorau gan gynnwys technoleg, prentisiaethau a’r cynllun Arfor, cyn penderfynu ar y tri chlwstwr terfynol.

Clwstwr y feithrinfa ddydd oedd y cyntaf i gael ei ddatblygu a bu’n gweithio ar y cyd â’n prif bartner, Menter Iaith Cymru.  Helpodd nifer o Fentrau i ddatblygu cynigion ar gyfer meithrinfeydd dydd iaith Gymraeg.  Bu’r clwstwr yn gweithio ar ddatblygu llawlyfr bras, a hwylusodd y broses o sefydlu meithrinfeydd dydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Aeth yr ail glwstwr ar drywydd gwahanol.  Yn dilyn trafodaethau ac ymchwil cychwynnol, nododd y prosiect fentrau cymdeithasol fel ail glwstwr dichonadwy i ehangu ei effaith.

Tasg gyntaf y clwstwr oedd cynnal cynhadledd ‘Perchnogaeth Gymunedol’, a oedd yn gyfle i ddod â mentrau o’r un anian i ddeall yr anghenion a’r heriau y mae mentrau cymdeithasol yn eu hwynebu wrth weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn dilyn argymhellion y gynhadledd, lluniodd y prosiect weithgor, rhannu arfer da a chynnig cynllun mentora ar gyfer mentrau cymdeithasol newydd drwy ddefnyddio profiad mentrau sydd wedi hen ennill eu plwyf.

Roedd y trydydd clwstwr yn ganlyniad trafodaethau a gynhaliwyd gan y gweithgor mentrau cymdeithasol, gan gydnabod yr angen am Gronfa Buddsoddi Cymunedol ar gyfer trefi yng Nghymru er mwyn adfywio’r economi leol.  Bu’r clwstwr peilot yn gweithio gyda dwy gymuned yng ngogledd orllewin Cymru, gan gefnogi’r broses o ddatblygu adnodd ariannu ynghyd â gwaith ymchwil pwysig i gronfeydd eraill tebyg.

Bydd y gronfa yn targedu twristiaeth gynaliadwy yn yr ardaloedd hyn yn benodol, a’r gobaith yw y bydd yn ysbrydoli cronfeydd eraill mewn gwahanol gymunedau yn y dyfodol agos.

Mae’r prosiect wedi dod i ben gyda llawer o sylwadau diddorol, sydd â’r potensial o helpu i adfywio ardaloedd gwledig, drwy greu economi gryfach gyda’r Gymraeg yn chwarae rhan annatod o hynny.

Er mwyn adeiladu ar allbynnau’r prosiect, mae angen dull gweithredu ar y cyd, gyda rhanddeiliaid a swyddogion y llywodraeth yn gweithio’n agos ar y syniadau a’r argymhellion sydd wedi datblygu yn ystod y prosiect hwn.  O ganlyniad, bydd hyn yn helpu i brif ffrydio’r Gymraeg a’i gwneud yn rhan reolaidd o’r economi a’r gweithle.

Share This