Buddsoddiad o filiynau o bunnoedd yn nyfodol Coleg Glynllifon

Mehefin 2023 | Polisi gwledig

Mae Coleg Glynllifon yn ceisio adeiladu ar ei lwyddiannau diweddar a chyfnerthu ei safle ar flaen y gad ym maes dysgu amaethyddol a’r economi wledig gyda thri phrosiect, sydd wedi’u clustnodi i’w datblygu ar ei safle ger Caernarfon, sy’n cynrychioli buddsoddiad pellach o £16miliwn yn economi’r rhanbarth gan gynnwys darparu Hwb Economi Wledig Glynllifon, sy’n rhan o raglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth Bargen Twf Gogledd Cymru.

Yn ogystal â rhoi hwb enfawr i economi gogledd Cymru, mae’r arian hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysgol ei fyfyrwyr. Bydd y prosiectau newydd yn darparu ystod o gyfleusterau modern i helpu i feithrin mwy o ddysgu, entrepreneuriaeth, arloesi, trosglwyddo gwybodaeth a datblygu menter.

Mae’r cyhoeddiad am y buddsoddiad sylweddol hwn yn dilyn llwyddiannau diweddar i’r coleg, gan gynnwys ei fferm yn ennill y fuches Procross ganolig orau yn y DU, gan Viking Genetics, a’r adran goedwigaeth yn ennill Gwobrau Rhagoriaeth Addysg a Dysgu gan y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol. Hefyd, cafodd y rhaglen gyfalaf ddiweddar gwerth £2.1miliwn i ail-bwrpasu adeiladau fferm a adeiladwyd yn 1850 i fod yn ganolfan gofal anifeiliaid i arwain y sector ei chydnabod yn y Green Apple ​Environment Award​s yn Llundain, gan ennill cyfres o anrhydeddau, gan gynnwys gwobr Aur yn y categori prosiectau trawsnewid.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Coleg Llandrillo.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This