Adolygiad o dargedau ynni adnewyddadwy Cymru – ymgynghoriad yn dod i ben

Mehefin 2023 | Polisi gwledig

white pinwheels

Mae’r ymgynghoriad a lansiwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS, ar darged newydd Llywodraeth Cymru o gwrdd â 100% o’i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, wedi cau ac mae’r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.

Wrth lansio’r ymgynghoriad yn gynharach eleni, dywedodd y Gweinidog fod Cymru, erbyn 2035, yn anelu at gael 1.5GW o gapasiti ynni adnewyddadwy “dan berchnogaeth leol,” heb gynnwys pympiau gwres. Yn ogystal, mae targed o 5.5GW ar gyfer pympiau gwres, yn amodol ar fwy o gymorth gan lywodraeth y DU a gostyngiadau mewn costau yn y dechnoleg.

Er mwyn cyrraedd y targedau hyn, pwysleisiodd James bwysigrwydd seilwaith a chadwyn gyflenwi Cymru gan y bydd y rhain yn chwarae rhan hanfodol wrth gyrraedd y nodau diwygiedig. Fel rhan o’r ymdrechion i hybu’r sector ynni adnewyddadwy, datgelodd y Gweinidog y bydd £1 miliwn o gyllid yn cael ei ddyrannu i archwilio potensial ynni gwynt ar y môr. Bydd y cyllid hwn yn cael arian cyfatebol gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain, gan alluogi gwaith paratoi ar gyfer prosiectau alltraeth arnofiol yn y dyfodol i gael ei wneud yng Nghymru.

Bydd canlyniadau’r broses ymgynghori yn helpu i lunio’r strategaeth a’r polisïau sydd eu hangen i gyflawni amcanion ynni adnewyddadwy Cymru erbyn 2035.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This