Datgelu cydweithrediad fydd yn hwb i economi bwyd-amaeth Cymru

Mehefin 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ddiweddar aeth Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, i Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar i lansio partneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac AMRC Cymru, gyda’r nod o drawsnewid yr economi wledig drwy ddatblygu sgiliau ac archwilio technolegau newydd ar gyfer y sector bwyd-amaeth.

Mae’r bartneriaeth hon yn gysylltiedig â Hwb Economi Wledig Glynllifon, a’i diben yw creu gweithlu bwyd-amaeth o’r radd flaenaf gyda’r lefelau uchaf o safonau amgylcheddol.

Mae AMRC Cymru, a reolir gan Brifysgol Sheffield ac sy’n aelod o’r Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel (HVM), yn rhan o glwstwr o ganolfannau o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a datblygu technolegau a ddefnyddir mewn sectorau gweithgynhyrchu gwerth uchel. Mae ganddo enw da yn fyd-eang am helpu cwmnïau i oresgyn problemau gweithgynhyrchu ac mae wedi dod yn fodel ar gyfer ymchwil cydweithredol sy’n cynnwys prifysgolion, academyddion a diwydiant ledled y byd.

Mae ei ganolfan o’r radd flaenaf gwerth £20m a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sectorau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys awyrofod, moduro, niwclear a bwyd ym meysydd ymchwil allweddol gyriant, cynaliadwyedd a gweithgynhyrchu digidol yn y dyfodol.

Bydd Grŵp Llandrillo yn gweithio’n agos gydag AMRC Cymru ar brosiectau trosglwyddo gwybodaeth lefel uchel gyda’r nod o greu gweithlu proffesiynol medrus iawn ar draws y gadwyn gyflenwi sy’n cynyddu cystadleurwydd ac yn manteisio ar gyfleoedd masnachol sy’n arwain at swyddi a buddsoddiad ar draws y rhanbarth.

Mae’r cytundeb yn cynnwys cydweithrediad sy’n gysylltiedig â phrosiect Bargen Twf Gogledd Cymru – Hwb Economi Wledig arfaethedig Glynllifon – ac mae’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol i ffyniant economaidd economi gogledd Cymru yn y dyfodol.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This