Cyhoeddi adroddiad cyntaf y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Mehefin 2023 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

gray concrete building near body of water during daytime

Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi cyhoeddi cynnig i ddynodi rhannau o Gymru yn ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’.

Yn ôl adroddiad cyntaf y Comisiwn, byddai’r ardaloedd hyn yn gallu meddu ar rymoedd arbennig er mwyn gweithredu o blaid yr iaith ar lefel gymunedol. Bwriad hyn byddai i alluogi amrywiaeth ym mholisïau cyhoeddus yn ôl gofynion ieithyddol lleol. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r hyn y mae’r Comisiwn yn ei weld fel y meysydd polisi sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr iaith ar lawr gwlad. Cyniga’r adroddiad ffyrdd y gellid amrywio polisïau yn lleol er mwyn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd hynny lle mae shifft iaith i’r Saesneg ar ei fwyaf amlwg. Ymysg y meysydd polisi y mae’r adroddiad yn crybwyll y gellid gweld newidiadau lleol ar eu cyfer yw cynllunio, datblygu cymunedol, yr economi, addysg a thai.

Dywedodd cadeirydd y Comisiwn, Dr. Simon Brooks:

‘Mae’r Comisiwn wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud. Ein canfyddiad cyntaf yw bod angen cymorth pellach i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd economaidd-gymdeithasol, ee ym meysydd tai, cynllunio, datblygu cymunedol yn ogystal ag addysg. Fe ellid cyflawni hyn drwy ganiatáu i bolisïau sy’n effeithio ar y defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru. Er mwyn gwneud hyn, mae’r Comisiwn o’r farn y dylid dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’, ac mae ein Papur Safbwynt yn trafod sut y gellid cyflawni hynny.’

Ymysg y ffyrdd y mae’r adroddiad yn dweud y gellid creu ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’ yw i Lywodraeth Cymru osod trothwy ystadegol er mwyn adnabod y cymunedau rheini sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, er mae’r adroddiad yn nodi nad dyma’r unig fodd o wneud hynny. Wrth barhau â’u gwaith bydd y Comisiwn yn ystyried a ddylai unrhyw drothwy ystadegol o’r fath fod yn ofyniad statudol.

Ceir sylwebaeth hefyd yn yr adroddiad am bwysigrwydd yr economi i’r iaith ac ynghylch cynllun ARFOR Llywodraeth Cymru:

‘Mae’r economi yn bwysig i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol. Felly dylid gwneud mwy o waith ymchwil ynghylch y berthynas rhwng datblygu economaidd a’r iaith. Mae’r Comisiwn yn croesawu cyfraniad ARFOR. Dylai ARFOR fod yn barhaol, meddu ar ei weithrediaeth ei hun, a chynnwys ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) sydd y tu allan i bedair sir bresennol y rhaglen. Dylid sicrhau hefyd fod y Gymraeg yn cael chwarae teg oddi mewn i strwythurau datblygu economaidd sydd wedi’u llunio ar hyd echel dwyrain-gorllewin. Yng ngham nesaf ei waith, bydd y Comisiwn yn trafod, ymysg pethau eraill, swyddi sector cyhoeddus, twristiaeth, amaethyddiaeth a defnydd tir.’

Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles am yr adroddiad:

‘Dw i’n croesawu canfyddiadau adroddiad y Comisiwn heddiw. Mae’n hollbwysig bod ein cymunedau yn gryf ac yn cael eu diogelu fel y gall y Gymraeg ffynnu. Mae’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf. Fe welon ni hynny yng nghanlyniadau’r cyfrifiad llynedd, ac mae papur y Comisiwn yn adlewyrchu hynny. Mae’r papur yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar y cymunedau Cymraeg eu hunain ynghylch eu hanghenion, a dyna pam dw i wedi dechrau cyfres o ymweliadau, er mwyn clywed pobl yn sôn am eu profiadau.’

Sefydlwyd y Comisiwn ym mis Awst 2022 er mwyn gwneud argymhellion ynghylch ffyrdd o gryfhau cymunedau Cymraeg. Mae gan y Comisiwn ddeg aelod o amryw o feysydd polisi gwahanol megis yr economi, tai, y gyfraith, addysg, llywodraeth leol, adnewyddu cymunedol, technoleg iaith a chynllunio iaith. Mae disgwyl i’w hargymhellion terfynol gael eu cyhoeddi ym mis Awst 2024. Mae modd darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This