NFU Cymru yn cynnal eu hail wythnos Dathlu Bwyd ac Amaeth Cymru

Mehefin 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae dathliad NFU Cymru o fwyd ac amaeth Cymru yn dychwelyd unwaith eto. Bydd yr wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau ar y 19eg o Fehefin gyda phwyslais arbennig ar geisio rhannu negeseuon cadarnhaol am amaeth Cymru.

Ar ddydd Llun 19eg o Fehefin mae NFU Cymru yn annog ffermwyr i hyrwyddo pwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru a’i chymunedau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnodau #WythnosFfermioCymreig a #WelshFarmingWeek.

Ar ddydd Mawrth 20fed o Fehefin bydd dathliad o fwyd ac amaeth Cymru yn Senedd Cymru lle bydd NFU Cymru yn cyhoeddi eu dogfen polisi ar genhedlaeth nesa o ffermwyr yng Nghymru bydd yn amlinellu eu gofynion i wleidyddion.

Ar ddydd Mercher 21ain o Fehefin bydd y mudiad yn cynnal gwers rithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg i blant ysgol ar draws y wlad, bydd yn cynnig addysg ynghylch y diwydiant amaeth a sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Ar ddydd Iau 22ain o Fehefin bydd yna ddigwyddiad i arweinwyr ysgolion yn Bwlchwernen Fawr yn Llambed er mwyn trafod y ffyrdd y gall ysgolion gyflwyno bwydlenni sy’n cynnwys mwy o fwyd lleol, tymhorol a maethlon i’w bwydlenni, tra hefyd yn archwilio sut y gellid integreiddio dysgu am fwyd yn y cwricwlwm.

Ar ddydd Gwener 23ain o Fehefin bydd yr wythnos yn cau gydag aelodau Senedd Cymru yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd ar ffermydd ar draws Cymru. Mae NFU Cymru yn dweud bydd yr ymweliadau hyn yn cynnig cyfle gwych i aelodau ddod i ddeall yn well yr heriau mae’r diwydiant amaeth yng Nghymru yn ei wynebu.

Mae modd gweld rhaglen gyfan o ddigwyddiadau’r dathliad yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This