Cabinet Cyngor Sir Powys yn cymeradwyo cynllun i helpu’r digartref

Awst 2023 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae cabinet Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo cynllun i helpu’r digartref yn y sir, drwy sicrhau eu bod yn cael llety sefydlog cyn gynted â phosib.

Enw’r ymgyrch yw Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Powys a’r bwriad yw i’r cyngor, cymdeithasau tai ac eraill gydweithio hyd at 2028 i geisio atal digartrefedd. Yn rhan o’r cynllun mae yna sawl cynnig penodol ar gyfer darpariaeth gan gynnwys:

  • Dwy ganolfan 24 awr brysbennu, lle bydd modd i unigolion gael cymorth ac asesiad o’u hanghenion. Bydd y canolfannau hyn hefyd yn gallu rhoi llety dros dro diogel am hyd at wythnos i’r rhai sydd ei angen.
  • Dau gynllun i ddarparu cartrefi hunangynhwysol i unigolion ag anghenion cymhleth a dwys nad ydynt yn gallu wynebu byw yn annibynnol yn y gymuned yn syth.
  • Cartrefi modiwlaidd er mwyn darparu mwy o safleoedd llety dros dro.

Mae yna newidiadau Bolisi Dyrannu ‘Cartrefi ym Mhowys’, sy’n effeithio polisïau ar gyfer tai cymdeithasol y sir gan gynnwys:

  • Bydd pobl oedd gynt wedi cael eu gosod mewn llety dros dro o ganlyniad i fod yn ddigartref yn cael cynnig i wneud y tai hyn yn rhai parhaol, os ydynt yn addas, gan olygu nad oes rhaid i’r rheini wedi eu cartrefi symud eto.
  • Mae hefyd cymal yn y cynllun sy’n datgan y bydd hyd gwasanaeth unigolyn yn Lluoedd Arfog Prydain yn cael ei ystyried fel ffactor wrth iddynt gael eu hasesu. Bydd amser a dreuliwyd yn y lluoedd arfog yn cyfrif fel pe bai eu bod wedi byw ym Mhowys wrth ystyried blaenoriaethu tai fforddiadwy.

Dywedodd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a deiliad Portffolio Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Decach:

‘Mewn ychydig dros dair blynedd rydym wedi gweld nifer yr aelwydydd sy’n gofyn am dai fforddiadwy yn mwy na dyblu, mae nifer yr aelwydydd digartref wedi cynyddu mwy na thraean, ac mae nifer yr aelwydydd sydd wedi’u lleoli mewn llety dros dro – gan gynnwys gwely a brecwast bron â bod bedair gwaith yn uwch.’

‘Bydd ein cynllun yn cymryd yn ganiataol fod pawb yn ‘barod am dai’ gyda’r gefnogaeth gywir, yn sicrhau bod pobl yn treulio cyn lleied o amser â phosib mewn llety dros dro; a phan fydd angen llety dros dro arnynt, bydd o safon uchel. Bydd hefyd yn helpu pobl i gael mynediad i’r cartref iawn yn y lle iawn iddynt ac yn nodi y bydd hyn yn ‘gartref annibynnol, prif ffrwd’ i’r rhan fwyaf, ond y gall eraill ddewis llety â chymorth.’

‘Dylai hefyd ein helpu i leihau costau dros amser, drwy leihau’r angen i ddefnyddio darparwyr gwely a brecwast ar gyfer llety dros dro, a all fod yn gostus iawn.’

Yn aml mae digartrefedd yng nghefn gwlad Cymru yn fater cuddiedig nad yw nifer yn gweld na chlywed newyddion yn ei gylch. Mae ffactorau unigryw cefn gwlad Cymru yn gallu gwneud mynd i’r afael a’r broblem yn un cymhleth, ac yn aml mae awdurdodau lleol yn wynebu problemau o ran diffyg adnoddau, dwysedd poblogaeth ac adeiladau isel a phellter daearyddol rhwng ardaloedd gwahanol sy’n gwneud darparu gwasanaethau yn dasg anodd. Mae cynllun Cyngor Powys yn rhan o ymgyrch ehangach gan Lywodraeth Cymru sydd yn ceisio sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth prin, byrhoedlog ac nad yw’n ailadrodd. Mae modd canfod mwy o wybodaeth am weledigaeth Llywodraeth Cymru, a’r canllawiau maent wedi gosod i awdurdodau lleol i ddatrys y broblem yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This