Cronfa Her ARFOR: Y wybodaeth angenrheidiol

Awst 2023 | Arfor, Sylw

Mae Cronfa Her ARFOR yn rhan o raglen ehangach ARFOR i gryfhau’r berthynas rhwng yr economi leol a’r iaith Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru. Mae cynllun ARFOR am weld cymunedau ffyniannus a llewyrchus yn y Fro Gymraeg a bwriad y Gronfa Her yw annog mentrau lleol bydd yn gallu gwella a chadw cyfoeth lleol er lles cymunedau.

Pwrpas penodol y Gronfa Her yw bod yn gronfa ariannol sy’n dosbarthu grantiau ar gyfer datrysiadau arloesol i broblemau cymunedol yn ardaloedd Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Gall grwpiau o unigolion, sefydliadau, grwpiau cymunedol a busnesau yn yr ardaloedd hyn wneud cais am grant os ydynt yn credu eu bod yn meddu ar syniad gall fynd i’r afael a’r heriau unigryw y mae eu cymunedau yn eu hwynebu. Drwy gefnogaeth o’r fath, mae’r cynllun yn gobeithio annog cydweithio a phartneriaeth ar lawr gwlad fel modd nid yn unig o sicrhau hunaniaeth a rhinweddau unigryw’r ardaloedd hyn ond hefyd i annog pobl ifanc a theuluoedd i aros a dychwelyd i’w cymunedau iddynt gael helpu sicrhau dyfodol y cymunedau hyn.

Drwy annog arloesedd gan y sefydliadau a’r unigolion sydd yn nabod yr ardaloedd hyn orau, rheini sy’n byw ac a fagwyd yno, mae modd creu amgylchedd lle mae heriau lleol yn cael eu hateb a’u datrys gan bobl leol sydd yn deall anghenion arbennig eu milltir sgwâr orau.

Yn benodol mae’r Gronfa Her yn chwilio am brosiectau arfaethedig fydd yn:

  • Defnyddio’r Gymraeg i annog twf economaidd yn lleol a sbarduno gweithgarwch mentrus ar lawr gwlad.
  • Dangos y cysylltiad sy’n bodoli rhwng iaith ac economi yn Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.
  • Arloesi syniadau newydd ar gyfer datrys heriau penodol yr ardaloedd hyn.
  • Cyfrannu at fudd, lles ac ansawdd byw cymunedau’r ardaloedd hyn.
  • Annog cydweithio rhwng unigolion, sefydliadau a busnesau a chreu sylfaen ar gyfer partneriaethau cadarn.
  • Gweithio ar draws ffiniau Awdurdodau Lleol, a chydweithio a chymunedau mewn siroedd gwahanol.
  • Creu gofodau a chyfleoedd, boed yn rhai diriaethol neu ddigidol, bydd yn caniatáu cydweithio a sicrhau cyfleoedd i bobl i fyw, gweithio a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Gronfa Her wedi ei rannu yn ddwy ffrwd wahanol, sef y Gronfa Her Fach a’r Gronfa Her Fawr. Mae’r Gronfa Her Fach yn gwobrwyo hyd at £30,000 tra bod y Gronfa Her Fawr yn rhoi grant o hyd at £100,000. Mae’r Gronfa Her Fach yn bodoli i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fach er mwyn ceisio syniadau amrywiol yn gyflym gyda’r golwg o’u datblygu ymhellach drwy geisiadau i’r Gronfa Her Fawr. Mae’r Gronfa Her fawr yn gronfa hyblyg sy’n cynnig cefnogaeth ariannol i brosiectau mwy sy’n gweithredu oddi fewn un awdurdod lleol, ar draws amryw o awdurdodau neu dros ardal ARFOR i gyd.

Mae modd dechrau’r broses gwneud cais ar gyfer y ddwy Gronfa drwy gwblhau dogfen ‘Datganiad o Ddiddordeb’ yn amlinellu’r hyn yr ydych yn ei weld fel yr her leol sydd angen ei ddatrys, eich datrysiad posib i’r her hwn, ac amcangyfrif o werth y prosiect. Wedi i chi gyflwyno’ch cais bydd aelod o dîm y Gronfa Her yn cysylltu i drafod ymhellach ac yn trefnu eich bod yn mynychu gweithdai pwrpasol. Wedi i chi fynychu’r gweithdy bydd cyfle i chi gyflwyno Ffurflen Gais Cronfa Her ARFOR yn ffurfiol. Mae modd canfod mwy o wybodaeth ar wefan ARFOR.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This