Ehangu Llwybr Arfordir Cymru yng Ngwynedd

Awst 2023 | Di-gategori

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi fod Llwybr Arfordir Cymru wedi agor cymal 3.2km newydd o’r llwybr sy’n arwain cerddwyr drwy goedlan hynafol yn Ystâd Penrhyn ar bwys Bangor. Mae hyn yn rhan o’r gwaith i osod y llwybr yn nes at yr arfordir lle bo modd, ac fe fydd cymal newydd y llwybr yn cysylltu ardal Porth Penrhyn i’r llwybr presennol ar bwys gwarchodfa natur Aberogwen.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, sef yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar Gyngor Gwynedd:

‘Rydw i’n hynod falch i weld y llwybr cyhoeddus unigryw yma yn agor trwy Parc  Penrhyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chware rhan yn y gwaith. Mae’n wych gweld Gwynedd yn arwain y ffordd yn natblygiad Llwybr Arfordir Cymru.

‘Bydd y llwybr yn adnodd heb ei ail i drigolion lleol a thu hwnt, gan gynnig golygfeydd godidog o Draeth Lafan a’r arfordir ehangach.’

Dywedodd Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer y rhanbarth:

‘Fe ddechreuodd y gwaith yn ôl ym mis Ionawr. Er gwaetha’r gwanwyn gwlyb iawn, a oedodd y gwaith ychydig fisoedd, ond mae’n braf gweld penllanw yr holl waith caled a gallu croesawu cerddwyr i’r ardal brydferth hon. Bydd mân waith yn parhau dros yr wythnosau nesaf, ond gyda chymaint o ddiddordeb yn y llwybr penderfynwyd ei agor cyn gynted â phosib.

Mae hon yn garreg filltir arall i ni yng Ngwynedd wrthi i’r gytundeb cyfreithiol yma fynd â ni dros 20 milltir o lwybrau cyhoeddus wedi eu creu ers 2010.’

Roedd peth gwaith diwygio i’r safle i’w wneud yn addas ar gyfer cerddwyr. Roedd rhaid gosod trywydd ar gyfer y llwybr, dymchwel dwy ran o wal Ystâd y Penrhyn er mwyn sicrhau ffordd i mewn ac allan o’r ystâd, a sicrhau fod y llwybr yn ddiogel rhag coed yn disgyn. Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru. Gallwch ddysgu mwy am gymal newydd Llwybr yr Arfordir ar wefan Cyngor Gwynedd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This