Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ddefnydd llety gwely a brecwast i ymladd digartrefedd

Awst 2023 | Sylw, Tlodi gwledig

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd ymatebion gan y cyhoedd ynghylch y newidiadau arfaethedig i Atodlen 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Bydd y newidiadau i Atodlen 2 yn atal llety gwely a brecwast sy’n cael ei ddefnyddio er pwrpas cartrefi’r digartref i fod yn gontract meddiannaeth. Mae hyn yn berthnasol yn yr achlysuron hynny y mae llety gwely a brecwast yn darparu stafelloedd i’r digartref o ganlyniad i drefniant gydag awdurdod tai lleol.

Yn 2016, pan gafodd y ddeddf ei basio, nid oedd y Llywodraeth wedi rhagweld y byddai angen defnyddio llety gwely a brecwast i roi man aros i unigolion dros gyfnod estynedig. Yn ôl datganiad y Llywodraeth uchafswm y cyfnod yr oedd unigolion yn aros mewn amgylchiadau o’r fath yn y cyfnod hwnnw oedd rhwng dwy a chwe wythnos. Yn y ddogfen drosolwg, maent yn datgan fod prinder o lety ynghyd a newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn cael eu lletya yn sgil y pandemig yn golygu defnydd amlach a mwy helaeth o lety gwely a brecwast ac felly bod angen gwaharddiad.

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 15 Medi 2023, gallwch ganfod manylion pellach am y newidiadau ynghyd a’r wybodaeth bellach ynghylch ymateb ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This