Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad newid poblogaeth

Gorffennaf 2023 | Di-gategori

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi lansio ymchwiliad newydd bydd yn edrych ar yr effaith mae newid poblogaeth yn ei gael ar Gymru. Yn ôl datganiad gan y Pwyllgor, mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn nag ardaloedd eraill o’r Deyrnas Gyfunol ac mae nifer y bobl rhwng 15 a 64 oed hefyd wedi disgyn.

Nod yr ymchwiliad yw mynd i’r afael a’r rhesymau dros y newidiadau hyn a’r effaith y mae newid o’r fath yn ei gael. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar ddatrysiadau posib i’r problemau gall hyn achosi. Dywedodd Stephen Crabb, cadeirydd y Pwyllgor:

‘Mae poblogaeth Cymru yn newid. Mae’r twf yn arafu yn gyffredinol, tra bod rhai ardaloedd fel Ceredigion yn gweld gostyngiad yn nifer y preswylwyr. Mae’r boblogaeth yn heneiddio ar draws Cymru gyfan, a Chaerdydd, Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr yw’r unig leoedd sydd wedi profi cynnydd yn nifer y bobl o oedran gweithio. Mae ein Pwyllgor am dynnu sylw at y tueddiadau hyn a gofyn beth maen nhw’n ei olygu i Gymru.

Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ddeall pam ei bod yn ymddangos bod pobl iau yn gadael Cymru – yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Byddwn yn edrych yn benodol ar yr effaith mae’r tueddiadau hyn yn ei chael ar economi Cymru a’r farchnad lafur, a’r goblygiadau i wasanaethau cyhoeddus.’

Mae’r Pwyllgor yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 22 Medi 2023. Maent yn gofyn i’r cyfraniadau hyn ganolbwyntio ar y ffactorau canlynol:

  • Beth sy’n achosi’r newidiadau ym mhoblogaeth Cymru?
  • A yw pobl ifanc yn gadael Cymru ac os felly pam eu bod yn gwneud?
  • Pa effaith y mae gostyngiad o’r fath yn ei gael ar economi Cymru?
  • A oes effaith dirnadwy i’w weld ar y tueddiadau hyn ar wasanaethau cyhoeddus?
  • Pa fesurau gall Llywodraeth Prydain eu creu er mwyn mynd i’r afael a’r problemau y mae newid mewn poblogaeth yn eu hachosi?
  • A oes yna ffyrdd o ddenu mudwyr sydd a’r addysg a sgiliau angenrheidiol i helpu i lenwi bylchau yn y farchnad lafur?

Mae modd canfod mwy o wybodaeth am ymchwiliad y pwyllgor a chyflwyno tystiolaeth iddynt ystyried drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This