Cyhoeddi adroddiad yn trafod canfyddiadau cynllun bwyd cymunedol

Gorffennaf 2023 | O’r pridd i’r plât, Sylw, Tlodi gwledig

person holding red chili plant

Mae adroddiad wedi ei gyhoeddi sy’n trafod buddiannau effaith cynllun prawf bwyd cymunedol a lansiwyd yn 2021. Mae’r ‘Accessible Veg Pilot Project’ yn gynllun sydd am astudio effaith posib Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned (Community Supported Agriculture neu CSA yn Saesneg) ar gyfer annog deiet iach ymysg pobl a sicrhau cadwyn fwyd gynaliadwy. Trefnwyd y cynllun gan T-Grains gyda chymorth ariannol o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Caerdydd, WWF Cymru a Synnwyr Bwyd Cymru.

Fel rhan o’r cynllun roedd 38 teulu oedd yn dioddef o ddiffyg diogeledd bwyd yn derbyn bag o lysiau yn wythnosol wedi eu darparu gan gynhyrchwyr lleol. Roedd y tîm ymchwil wedyn yn cyfweld a’r rheini oedd yn cymryd rhan, ac yn casglu dyddiaduron bwyd ganddynt ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyfnod prawf er mwyn deall yr effaith cafodd y cynllun ar eu bywydau a’u harferion bwyta.

Amcanion y cynllun oedd adnabod y rhwystrau oedd yn atal pobl rhag cael aelodaeth grwpiau amaeth â chymorth y gymuned, mesur effaith aelodaeth o’r fath ar deuluoedd lle oedd diogeledd bwyd yn broblem, ac archwilio dulliau y gall amaethwyr o’r fath greu modelau cyd-gefnogaeth y byddai’n caniatáu argaeledd sachau llysiau i bawb.

Gweithiodd y prosiect a 4 fferm gymunedol wnaeth fynegi diddordeb i wneud eu cynnyrch ar gael i deuluoedd yn wynebu diffyg diogeledd bwyd. Y cynhyrchwyr hyn oedd Ash and Elm Horticulture yn Llanidloes, Glasbren ym Mancyfelin, Henbant yng Nghlynnog Fawr a Slade Farm Organics yn Saint-y-brid. Cafodd y cynhyrchwyr hyn eu hannog i weithio gydag elusennau lleol er mwyn iddynt gael helpu gyda chefnogi’r fenter, sef Splice Child and Family Project ym Mhen-y-bont a Siop Griffiths ym Mhenygroes.

Nawr mae yna adroddiad sy’n asesu buddiannau’r cynllun wedi ei gyhoeddi gan academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr ar blatfform cyhoeddi Frontiers. Mae’r adroddiad ‘Building relationships back into the food system: addressing food insecurity & food well-being’ yn gwneud sawl sylw ynghylch yr angen i ariannu cynlluniau o’r fath er mwyn helpu ac annog bwyta’n iach.

Yn ôl Caroline Vuerfuerth, un o awduron y papur, mae methiannau’r system fwyd presennol yn cael effaith fwy ar gartrefi incwm isel, ac mae hyn yn ei dro yn arwain at ddiffyg mynediad at fwydydd iach a chynaliadwy. Fe wnaeth y cynllun bagiau llysiau gael yr effaith o leihau diffyg diogeledd bwyd a gwella llesiant y rheini oedd yn cymryd rhan. Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ynghyd a holl argymhellion pellach yr awduron drwy ddilyn y ddolen yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This