Good Law Project yn ymuno a galwadau i gau pwll Ffos-y-Frân

Gorffennaf 2023 | Sylw

Mae’r Good Law Project wedi ymuno gyda Coal Action Network i alw am derfyn ar gloddio ym mhwll glo Ffos-y-Frân ym Merthyr Tudful. Daeth y caniatâd cynllunio oedd yn caniatáu Merthyr (South Wales) Ltd i gloddio ar y safle i ben ym mis Medi 2022, ond mae’r cwmni wedi parhau a’u gwaith yno yn anghyfreithlon heb ymyrraeth gan yr awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful osod hysbysiad gorfodi yn ei le ym mis Mai eleni, sef dogfen gyfreithiol oedd yn hysbysu’r cwmni bod y gwaith cloddio yn mynd yn groes i reoliadau cynllunio, ond fe wnaeth y cwmni apelio a pharhau i gloddio.

Mewn llythyr cyfreithiol mae’r Good Law Project a Coal Action Network yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr a gweinidogion Llywodraeth Cymru i atal unrhyw waith pellach drwy gyhoeddi hysbysiad stop i’r cwmni erbyn y cyntaf o Awst 2023. Un peth diddorol am y llythyr yw ei fod yn gwneud sawl cyfeiriad at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015 er mwyn gwneud dadl gyfreithiol o blaid cau’r safle’n barhaol.

Gallwch ddysgu mwy am yr ymgyrch a chanfod y llythyr cyfreithiol yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This