Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ymateb i gwestiwn her gyntaf Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru. Sefydlwyd Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru, sy’n dod ac arbenigwyr polisi a gwyddoniaeth amgylcheddol ynghyd, gan Lywodraeth Cymru fel modd o ganfod atebion i’r her y mae ceisio lleihau allyriadau carbon yn ei gyflwyno. Fel rhan o’u gwaith, mae’r grŵp wedi gosod ‘cwestiynau her’ fel dull i ysgogi sefydliadau ymchwil, y cyhoedd a rhanddeiliaid o bob math ar draws cymdeithas i fynd i’r afael a gwahanol elfennau o gyrraedd sero net. Mae pum cwestiwn craidd mae’r grŵp wedi ei osod:
- Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?
- Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?
- Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
- Sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035?
- Sut gallai addysg, swyddi a gwaith edrych ledled Cymru erbyn 2035?
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn cynnig argymhellion i’r grŵp mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf, sef ‘Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?’. Mae’r gwaith hwn gan y ganolfan yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru, fel modd o gynnig cyngor annibynnol i’r Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru.
Yn y papur, mae awduron yr adroddiad yn dadlau fod angen gweddnewid tirlun cynhyrchu bwyd Cymru ac yn amlinellu’r data hanfodol er mwyn deall allyriadau carbon a methan y sector amaeth yn y dyfodol. Nodir bod angen newid y modd y mae ffermwyr yn defnyddio’u tir tuag at leihau allyriadau carbon a methan drwy sicrhau fod y rheini y gellid cael eu heffeithio’n negyddol gan newid o’r fath, megis ffermwyr da byw yn derbyn y cymorth angenrheidiol er mwyn trawsnewid eu busnes. Mae plannu coed, newid deiet a chynyddu argaeledd llysiau a chynnyrch lleol hefyd yn ffactorau mae’r adroddiad yn ei ystyried. Mae modd darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yma.