Arsyllfa yn ymuno â ERCA

Gorffennaf 2023 | Sylw

Mae Arsyllfa yn hynod falch o gyhoeddi o faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ein bod wedi ymuno â ERCA, y Gynghrair Cymunedau Gwledig Ewropeaidd fel aelod cyswllt. Dechreuodd ERCA yn wreiddiol fel rhwydwaith anffurfiol nol yn 2004, cyn troi’n sefydliad swyddogol yn 2009. Yn 2013 fe unodd dau fudiad o dan yr enw European Rural Community Alliance neu ERCA.

Nod y grŵp yw cefnogi cymunedau gwledig yn Ewrop, drwy gyfrwng eu mudiadau gwledig cenedlaethol a rhanbarthol yn enw datblygu cysylltiadau ar draws y cyfandir a sicrhau lle cryf i gymunedau gwledig drwy weithredu ar y cyd. Eu bwriad yw gweld cymunedau gwledig cadarn ar draws Ewrop wedi eu huno gan rwydwaith sy’n gweithio o’u plaid ac yn sicrhau ansawdd bywyd da i bobl y wlad wedi ei lywio gan eu hewyllys democrataidd.

Mae tîm Arsyllfa yn hynod falch o allu fod yn rhan o’r mudiad arloesol a phwysig hwn, a gobeithiwn allu gyfrannu at y drafodaeth a rhannu safbwyntiau o Gymru gyda’n cydweithwyr Ewropeaidd wrth i ni barhau a’n gwaith.

I ddysgu mwy am ERCA ac amcanion amgenach y grŵp, gallwch ganfod mwy o wybodaeth ar eu gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This