Digwyddiadau’r Sioe Frenhinol: pigion Arsyllfa

Gorffennaf 2023 | Sylw

Gyda’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn dechrau wythnos nesa arlwy’r ŵyl mor llawn ac eang ac erioed gall y dasg o benderfynu yn union yr hyn yr ydych am fynd i’w weld a’i wneud yn ystod yr wythnos yn un anodd. Bydd maes y sioe yn fwrlwm o drafod a sgwrsio am newyddion a datblygiadau diweddaraf amaeth a chefn gwlad, a hynny mewn cyd-destun tra ansicr i ddyfodol ein cymunedau gwledig. Felly mae tîm Arsyllfa wedi penderfynu creu rhestr o’r seminarau a sesiynau trafod yr ydym yn credu y byddai fwyaf o ddiddordeb i’n darllenwyr a’u casglu yn un lle i chi gael gweld y rhai hoffech fynychu.

Ar ddydd Mawrth 25 Gorffennaf bydd NFU Cymru yn cynnal seminar gyda’r Gweinidog Lesley Griffiths ar eu stondin am 11yb. Daw’r digwyddiad hwn yn sgil datganiad diweddar gan NFU Cymru yn mynegi gofid ynghylch cynlluniau’r gweinidog a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen a’u nod i gymell ffermwyr i blannu coed ar hyd at 10% o’u tiroedd.

Ar ddydd Mercher 26 Gorffennaf rhwng 2 a 4yh bydd tîm Arsyllfa yn rhoi croeso i bobl ymweld â ni ar lawr cyntaf adeilad Lantra i gael trafod ein gwaith a’n cynlluniau ar gyfer dyfodol Arsyllfa. Mae croeso i bawb alw draw, edrychwn ymlaen at gael cwrdd a sgwrsio gyda chi.

Hefyd ar ddydd Mawrth am 4yh ym Mhafiliwn yr FUW bydd Undeb Amaethwyr Cymru, Chymdeithas Pêl-droed Cymru a Sefydliad DPJ yn cynnal sesiwn ar y cyd i drafod pontio’r gwant rhwng dynion ifanc ym myd ffermio a chlybiau pêl-droed ar draws Cymru. Bydd y seminar yn cael ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister ac fe fydd y panel yn cynnwys Noel Mooney, Kate Miles ac Emyr Wyn Davies fydd hefyd yn trafod mynd i’r afael a phroblemau iechyd meddwl yng nghefn gwlad ac yn y diwydiant amaeth. Mae modd canfod mwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn yma.

Ar ddydd Mercher 26 Gorffennaf rhwng 2 a 4yh bydd tîm Arsyllfa yn rhoi croeso i bobl ymweld a ni ar lawr cyntaf adeilad Lantra i gael trafod ein gwaith a’n cynlluniau ar gyfer dyfodol Arsyllfa. Mae croeso i bawb alw draw, edrychwn ymlaen i gael cwrdd ac i sgwrsio gyda chi.

Hefyd ar ddydd Mercher rhwng 2:30 a 3:30yh ar lawr cyntaf y Pafiliwn Rhyngwladol mae yna ddigwyddiad Ffermio ar gyfer y Dyfodol wedi’i drefnu gan RSPB Cymru. Bydd Dan Jones (tenant ffarmio), Rachel Madely-Davies (Hybu Cig Cymru) a Nick Gates (cynhyrchydd ffilm ‘Hungry for Change’) ymhlith cyfranwyr y panel. Mae modd archebu eich tocyn i’r digwyddiad hwn drwy ddilyn y ddolen yma.

Mwynhewch y Sioe!

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This