Syniadau Mawr Cymru yn cynnal gweithdy costio a prisio

Gorffennaf 2023 | Sylw

Mae Syniadau Mawr Cymru am gynnal gweithdy arbennig am ddim i helpu unigolion ifanc rhwng 18 a 25 sy’n berchennog busnes neu’n ystyried dechrau busnes yng Nghymru. Nod y gweithdy yw helpu’r garfan hon i gostio a phrisio eu gwasanaethau a’u nwyddau yn effeithiol.

Un o brif heriau dechrau busnes newydd yw gwybod beth yn union i godi am yr hyn yr ydych yn ei gynnig, gyda nifer naill ai’n codi’n ormodol neu ddim digon. Gall costau cudd ychwanegol gael effaith ar fusnes newydd a bod yn straen ar y rheini sydd yn dechrau eu siwrne ym myd busnes. Nod gweithdy Syniadau Mawr Cymru yw cynorthwyo unigolion i ddeall gwahanol strategaethau prisio ynghyd a darogan yr hyn sy’n debygol o effeithio eich busnes fel y gallech fod yn sicr eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch llafur.

Yn ôl Syniadau Mawr Cymru, erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn:

  • Gwybod sut i brisio eich nwyddau a’ch gwasanaethau yn effeithlon.
  • Deall sut i ddarogan gwerthiant yn y dyfodol a chynllunio er mwyn creu elw.
  • Gwerthfawrogi pwysigrwydd bod yn drefnus gyda’ch arian a’ch amser

Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal ar 25 Gorffennaf 2023 rhwng 10:30 a 11:30yb, gallwch archebu lle drwy ddilyn y ddolen hon. Mae’r gweithdy hwn yn rhan o gyfres o weithdai Prosiect Dechrau Busnes sy’n cael eu trefnu gan Syniadau Mawr Cymru, os hoffech wybod mwy am yr arlwy o gymorth mentora sydd ar gael ganddynt, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This