Heddlu’n rhybuddio ffermwyr i warchod eu heiddo cyn Sioe Llanelwedd

Gorffennaf 2023 | Sylw

Mae Gwasanaethau Heddlu Cymru wedi rhoi rhybudd i ffermwyr sicrhau fod eu heiddo yn ddiogel tra eu bod i ffwrdd yn ymweld â’r sioe yn Llanelwedd. Mae’r heddlu yn disgwyl gweld cynnydd mewn achosion o ladrata ar ffermydd yng Nghymru wrth i filoedd o ffermwyr adael adref ac ymostwng ar faes y Sioe Frenhinol am yr wythnos.

O dan faner ‘Operation Homestead Cymru’ mae Gwasanaethau Heddlu Cymru wedi wedi atgoffa troseddwyr posib y bydd yna fwy o batrolau ar hyd cefn gwlad Cymru. Dywedodd Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru Rob Taylor:

‘Mae’n eglur fod troseddwyr yng nghefn gwlad yn ymwybodol o bwysigrwydd tymor y sioeau ac yn benodol y Sioe Frenhinol i ffermwyr, pan gall ffermydd gael eu gadael yn wag am sawl diwrnod. Mae troseddwyr yn cymryd mantais o hyn ac yn targedu’r ffermydd hyn ar gyfer dwyn a lladrata.’

Rhannodd sawl darn o gyngor syml i ffermwyr sicrhau eu bod yn gallu gwarchod eu hunain rhag troseddwyr:

  • Gwiriwch bob un o’ch mesurau diogelwch gan sicrhau eu bod yn gweithio.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob un adeilad wedi ei gloi a bod unrhyw beirianwaith tu mewn iddynt yn ddiogel.
  • Sicrhewch fod eich camerâu cylch cyfyng (CCTV) yn weithredol ac am recordio unrhyw symudiadau ar y fferm.
  • Gadewch i’ch cymdogion wybod pryd yr ydych i ffwrdd a phryd y byddwch yn dychwelyd.
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw gatiau sy’n rhoi mynediad i’r fferm wedi eu cloi, boed ar y dreif neu drwy gae. Os yn bosib trowch un o golynnau’r giât i sicrhau na all neb eu codi.
  • Os yn bosib gofynnwch i rywun aros ar y fferm.
  • Defnyddiwch oleuadau wedi eu hamseru o gwmpas y fferm, boed y rheini yn ddibynnol ar symudiad neu yn dilyn amserlen benodedig.

Mae modd canfod mwy o argymhellion gan Rob Taylor ar wefan y CLA.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This