Terfyn Cam 1. Beth nesaf i Arfor?

Ebrill 2022 | Arfor, Sylw

boat on water near bridge

Bwriad cynllun Arfor yw datblygu ymyraethau economaidd i gael effaith gadarnhaol ar nifer o siaradwyr Cymraeg ac iechyd yr iaith ar draws gadarnleoedd gwledig yr iaith yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Gyda nifer o bobl, a phobl ifanc yn benodol, yn gadael eu hardaloedd lleol i chwilio am gyfleoedd gwaith gwell mewn mannau eraill, roedd y cynllun yn ymgais i fynd i’r afael a hyn, nid yn unig i greu mwy o swyddi ond hefyd i ddarparu gwell swyddi. Mae’r gallu i siaradwyr Cymraeg fyw a gweithio yn eu cymunedau, gan ddilyn gyrfaoedd ystyrlon a llewyrchus, yn fwy tebygol o arwain at ffyniant y Gymraeg.

A yw’r cynllun wedi bod yn llwyddiant hyd yma?

Mae adroddiad gwerthusol ar gyfer cymal cyntaf y prosiect yn dweud ei fod wedi creu 238 o swyddi llawn amser, 89 o swyddi rhan amser ac wedi sicrhau dyfodol pellach 226 llawn amser. Mae’r adroddiad hefyd yn datgan fod y prosiect wedi cefnogi 154 o fusnesau presennol a newydd. Mae sawl prif wers wedi ei hadnabod gan yr adroddiad hefyd. Ymysg yr argymhellion rhain dywedir:

  1. Bod angen gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr iaith â’r economi – yn benodol, y cysyniad o ‘well swyddi’ yn yr ardal a’u heffaith a’r fudo. Dylai unrhyw gynllun yn y dyfodol gynnwys buddsoddiad uwch ym meysydd ymchwil, monitro a gwerthuso dros gyfnod estynedig o amser. Dylid hefyd datblygu gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng ffactorau economaidd a ffactorau sylfaenol a strwythurol.
  2. Dylai unrhyw gynllun yn y dyfodol gael ei gynnal dros gyfnod hirach, i ganiatáu mwy o amser i gynllunio a darparu gwasanaethau sydd wedi eu hintegreiddio a chynlluniau busnes prif ffrwd a mentrau cefnogi iaith.
  3. Mae arloesedd ac arbrofi syniadol wedi bod yn elfennau creiddiol o’r prosiect hyd yma, a dylid parhau yn yr un modd gydag unrhyw gynllun yn y dyfodol, ond rhaid adnabod llwybrau penodol ar gyfer gwella sgiliau a/neu weithgareddau prif ffrwd lwyddiannus.
  4. Mae effaith cadarnhaol posib o integreiddio cefnogaeth i ddatblygu busnes a datblygu defnydd yr iaith mewn busnesau yn amlwg.
  5. Mae’r prosiect wedi amlygu effaith posib cefnogi pobl ifanc i sefydlu a datblygu mentrau, ac o ganlyniad wedi cynyddu’r tebygolrwydd o’u cadw yn eu hardaloedd lleol a’u bod yn dylanwadu ar eu cyfoedion, gall hyn fod yn rhan allweddol o unrhyw gynllun tebyg yn y dyfodol.
  6. Mae cydweithio a rhannu ymarferion gorau wedi bod yn nodweddion creiddiol o’r prosiect, ac y mae hyn yn cael ei werthfawrogi gan yr holl bartneriaid. Dylai unrhyw brosiect yn y dyfodol sicrhau fod yna ddigon o adnoddau i gefnogi ymhellach cydweithio rhwng partneriaid presennol, gyda’r nod o ehangu ystod y partneriaid sydd yn rhan o’r prosiect.

Mae modd darllen yr adroddiad llawn isod:

Gwerthusiad Arfor_crynodeb

Gwerthusiad Arfor_adroddiad terfynol

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This