Ffyniant Bro yn y DU, ond beth mae’n ei olygu i Gymru?

Mawrth 2022 | Polisi gwledig, Sylw

Mae papur gwyn Levelling Up the United Kingdom yn amlinellu camau nesaf y rhaglen ffyniant bro cymdeithasol ac economaidd a fydd yn cwmpasu’r ‘llywodraeth’ gyfan. Mewn egwyddor, mae’r rhaglen ffyniant bro’n ceisio lledaenu cyfleoedd yn fwy cytbwys ar hyd a lled y DU. Bydd hyn yn gofyn i’r llywodraeth hybu cynhyrchiant, tâl a safonau byw, gwella gwasanaethau cyhoeddus, adfer ymdeimlad o gymuned a grymuso awdurdodau a chymunedau lleol.

Safbwynt Cymreig

Mae melin drafod y Sefydliad Materion Cymreig wedi croesawu’r camau arwyddocaol mae’r papur gwyn yn eu cymryd tuag ddatganoli pŵer ac ariannu yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’r elusen, sy’n annibynnol o lywodraeth a phleidiau gwleidyddol, yn credu ei fod yn methu â manteisio ar y sefydliadau sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd i gyflawni ffyniant bro yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn credu bod y papur polisi yn bygwth gwanhau atebolrwydd democrataidd a datblygu economaidd yng Nghymru.

Mae pryderon ehangach a godwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn cynnwys diffyg eglurder canfyddedig ynghylch cyllid a nodir yn y papur gwyn i gymryd lle buddsoddiad coll yr UE, fel yr addawyd yn ystod ac ar ôl trafodaethau Brexit. Mewn ymateb, mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi argymell nifer o bwyntiau gan gynnwys:

1. Dylai’r cwantwm cyfunol o arian a ddarperir i Gymru o dan y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyfateb i gyllid strwythurol Ewropeaidd a ddarparwyd yn flaenorol, a chynyddu’n unol â chwyddiant i’r dyfodol.

2. Dylai corff cydgysylltu i Gymru gael ei greu ar y cyd gan lywodraethau’r DU a Chymru, gan ddwyn ynghyd y ddau, ynghyd ag awdurdodau lleol, busnesau a chymdeithas sifil i weinyddu dyraniadau’r Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Gymru.

Darllenwch ymateb llawn y Sefydliad Materion Cymreig i bapur gwyn ‘Levelling Up the United Kingdom’: What does ‘Levelling Up’ mean for Wales

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This