Canol trefi: datganiad sefyllfa gan Lywodraeth Cymru

Mehefin 2023 | Polisi gwledig

orange SUV beside brown and gray house

Mae dwy ran o dair o boblogaeth Cymru yn byw mewn trefi neu ddinasoedd sydd â dros 10,000 o bobl. Felly, mae canol trefi a dinasoedd llwyddiannus yn hanfodol i les amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Maen nhw’n creu ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth, lle mae pobl yn cwrdd, yn siopa, yn byw ac yn gweithio. Ond mae rhai o ganol trefi Cymru’n dirywio. Maen nhw’n wynebu heriau cymhleth sydd weithiau’n unigryw i leoedd penodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau datganiad sefyllfa sy’n mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu canol trefi ac yn amlinellu eu cynlluniau i’w hadfywio. Wedi’i gyhoeddi ar 2 Mai 2023, mae’r datganiad yn cydnabod y materion megis mudo gwasanaethau o ganol trefi i leoliadau y tu allan i drefi, atgyfnerthu lleoliadau y tu allan i’r dref oherwydd dibyniaeth ar geir preifat, a’r heriau unigryw a achosir gan y argyfyngau hinsawdd a natur.

Gellir darllen y datganiad llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This