Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi eu hadroddiad cyntaf i grŵp sero net

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

a black and white photo of smoke stacks in the distance

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno eu hadroddiad cyntaf i Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035, sy’n amlinellu peth o’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma i leihau allyriadau carbon yng Nghymru.

Sefydlwyd y Grŵp Herio ym mis Ionawr 2023 yn dilyn cytundeb cyd-weithredu Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021. Mae’r cytundeb hwnnw yn datgan fod y Llywodraeth yn:

‘Comisiynu cyngor annibynnol i ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050. Bydd hyn yn edrych ar yr effaith ar gymdeithas a sectorau o’n heconomi a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys sut y caiff y costau a’r manteision eu rhannu’n deg.’

Daw adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn sgil gofyniad gan y Grŵp Herio i ddarparu tystiolaeth iddynt er mwyn helpu eu gwaith o lunio argymhellion. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau bydd y Ganolfan yn paratoi i’r Grŵp Herio. Teitl yr adroddiad cyntaf yw ‘Trosolwg ar Dueddiadau Allyriadau a Llwybrau’ ac mae modd ei ganfod yma, ynghyd a gwybodaeth bellach am gyd-weithio’r Ganolfan a’r Grŵp Herio.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This