Prifysgol Caerdydd yn cyd-weithio a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd i rannu gwersi amgylcheddol

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato wedi cyhoeddi eu bod yn cyd-weithio ar ymchwil ar sut y gallai Cymru a Seland Newydd ddysgu o’i gilydd ynghylch ffyrdd i ymateb i newid hinsawdd a sicrhau dyfodol amaethyddiaeth yng ngwyneb heriau cynyddol o ganlyniad i gynhesu byd eang.

Mae’r cynllun yn rhan o brosiect ehangach sydd gan y ddwy brifysgol i gydweithio a’i gilydd sydd wedi bod yn ei le ers 2021. Mae’r Athro Gareth Enticott o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Iain White o Waikato yn edrych ar sut mae Cymru a Seland Newydd yn wynebu nifer o’r un heriau yn nhermau amgylcheddol ac yn edrych ar sut y gall y ddwy wlad rannu arferion da a datrysiadau i rai o’r heriau mwyaf dyrys.

Mae’r ddau wedi apelio at unrhyw un sy’n gyfrifol am lunio polisïau amgylcheddol neu sy’n ymwneud a’r maes hwn a meysydd tir, amaethyddiaeth a rheoli adnoddau naturiol i gyfrannu at arolwg ar-lein er mwyn cynorthwyo ei Gwaith. Mae yna un arolwg i’r rheini sy’n byw a gweithio yng Nghymru, tra bod yna arolwg gwahanol i’r rheini sydd am ymateb wrth ystyried cyd-destun amgylcheddol Seland Newydd. Gallwch ganfod fwy o wybodaeth ynghylch y prosiect ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This