Llywodraeth Cymru yn lansio Her Morlyn Llanw

Gorffennaf 2023 | O’r afon i’r môr, Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Her Morlyn Llanw sy’n gofyn am geisiadau ymchwil bydd yn edrych ar rhwystrau sy’n wynebu cynlluniau morlyn llanw ac hefyd yn diffinio manteision cynlluniau o’r fath.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y cynllun yn helpu eu bwriad i wneud Cymru yn ganolbwynt ar gyfer technolegau llanw er diben cynhyrchu ynni. Eu gobaith yw bydd yr her yn denu arbenigedd yn y maes i edrych ar y sefyllfa yng Nghymru ac i greu amgylchedd bydd yn adeiladu ar y wybodaeth angenrheidiol er mwyn datblygu technoleg llanw a chodi proffil y maes.

Mae’r gronfa gyfan yn £750,000 a bydd gwobr ariannol hyd at £250,000 yn cael eu rhoi i ymgeiswyr llwyddiannus mewn tri categori gwahanol. Y categorïau unigol y bydd y grantiau yn cael eu rhoi ar eu cyfer bydd, amgylchedd, peirianneg a technolegol ac ariannu ac economaidd-gymdeithasol.

Mae modd canfod mwy o wybodaeth am y cynllun, ynghyd a manylion ynghylch cymhwyso ar gyfer yr arian a sut i wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This