NFU Cymru yn beirniadu newid yn ffioedd rheoliadau trwyddedu amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae NFU Cymru wedi mynegi eu siom o weld cynnydd yn ffioedd rheoliadau trwyddedu amgylcheddol sy’n cael eu gosod gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ôl yr undeb mae’r cynnydd ‘dramatig’ yn y ffioedd y bydd rhaid i ffermwyr dalu i wneud ceisiadau ar gyfer trwyddedau yn cynrychioli her ychwanegol i ffermwyr mewn cyd-destun economaidd lle mae chwyddiant a chostau cynyddol yn barod yn cael effaith mawr ar y diwydiant.

Mae’r gyfundrefn ffioedd trwyddedau yn rheoli’r gost y trwyddedau y mae’n rhaid i ffermwyr wneud cais ar eu cyfer er mwyn gallu newid defnydd o’u tir ac i ddelio a gwastraff sy’n dyfod yn sgil amaethu. Wedi ymgynghori a’u haelodaeth, fe gyflwynodd NFU Cymru ymateb i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y newidiadau nol ym mis Ionawr 2023. Mae modd darllen yr ymateb hwnnw yn ei gyfanrwydd yma.

Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, Heledd Pugh: ‘Rydym wedi siomi’n fawr, er i’r diwydiant godi amheuon dilys ynghylch codiadau sylweddol i ffioedd a thaliadau, bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau a Llywodraeh Cymru wedi caniatáu y cynigion rhyfeddol o ddrud hyn, gyda’r newidiadau i fod yn weithredol o’r wythnos hon.’

Mae modd darllen y datganiad llawn ar wefan NFU Cymru. Mae mod astudio’r newidiadau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This