Undeb Amaethwyr Cymru’n ethol Llywydd newydd

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Ian Rickman wedi ei ethol yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi pleidlais unfrydol o’i blaid yng nghyfarfod Cyngor yr Undeb yn Aberystwyth wythnos diwethaf. Daw ei etholiad wedi ymddeoliad Glyn Roberts o’r swydd wedi wyth mlynedd o fod yn y rôl.

Mae Rickman yn ffarmwr defaid a bîff o Gurnos, Llangadog yn Sir Gaerfyrddin ac wedi gwasanaethu fel Dirprwy Lywydd yr undeb ers 2019.

Mewn datganiad dywedodd:

‘Mae angen eglurder ar frys ynghylch cyllid ar gyfer ffermio yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym ni fwy neu lai yn gwybod beth y gallwn ei ddisgwyl tan 2024 o ran cymorth i amaethyddiaeth, ond ar ôl hynny, mae’n anodd iawn i fusnesau gynllunio. Yn realistig, nid ydym yn gwybod y manylion ynghylch sut y bydd cymorth fferm yn edrych yn y dyfodol. Mae llawer o fy ngwaith yn y dyfodol agos yn mynd i ganolbwyntio ar gael eglurder ar hyn i’n haelodau.’

Mae modd darllen mwy am Ian Rickman a’i etholiad ar wefan Undeb Amaethwyr Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This