Coed Cadw yn cyhoeddi papur polisi yn ymateb i’r argyfwng natur

Tachwedd 2023 | Di-gategori

Mae Coed Cadw wedi cyhoeddi adroddiad newydd o’r enw ‘Coed a Choetiroedd: Wrth galon adferiad natur yng Nghymru’ sy’n datgan gweledigaeth y sefydliad er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng natur.

Gwêl Coed Cadw coedwigoedd yn rhan greiddiol o ateb y problemau sydd yn cael eu creu gan y ffaith taw Cymru yw un o’r gwledydd sydd wedi gweld y cwymp mwyaf yn y nifer ac amrywiaeth o fywyd gwyllt yn rhyngwladol. Yn ôl y sefydliad dim ond 9% o goedwigoedd brodorol Cymru sydd mewn cyflwr ffafriol yn nhermau ecolegol.

Mae’r ddogfen yn amlinellu egwyddorion ar gyfer adferiad natur yng Nghymru gan ddadlau bod angen gwarchod coedwigoedd yn well gan greu mwy o ardaloedd coediog a choed brodorol er mwyn sicrhau bioamrywiaeth ac ecosystemau cadarn.

Gallwch ddarllen y ddogfen yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This