Blog Gwadd: Mesur presenoldeb digidol busnesau a sefydliadau yn ARFOR

Rhagfyr 2023 | Arfor, Sylw

Mae hon yn erthygl gwadd gan Alexander Hogan a Richard Woodall o Etic Lab. Mae Etic Lab yn gwmni ymchwil a dylunio sy’n arbenigo mewn dulliau arloesol o gasglu a dadansoddi data. Mae modd canfod rhagor o wybodaeth am y cwmni a’i gwaith ar eu gwefan.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Rhaglen ARFOR wedi cynorthwyo amryw o ymyraethau i hybu defnydd o’r Gymraeg ac i feithrin ymdeimlad o berthyn ar draws y rhanbarthau sy’n cymryd rhan. Mae lot wedi ei gyflawni yn barod, o ddarparu grantiau i helpu pobl ifanc i ddechrau busnesau newydd i ddarparu cyllid i brosiectau sy’n ceisio cryfhau defnydd o’r iaith Gymraeg mewn cymunedau.

Beth ydym ni’n mesur?

Ond beth allwn ddweud am draweffeithiau economaidd ARFOR? Sut mae cymorth cynyddol ar gyfer yr iaith Gymraeg wedi effeithio busnesau, gweithwyr a cheiswyr swyddi yn yr ardaloedd hyn?

Mae tîm o ymchwilwyr gan gynnwys unigolion o gwmni ymchwil Wavehill, Prifysgol Aberystwyth, Sgema ac ein cwmni ymchwil a dylunio ni o Bowys, Etic Lab, yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau hyn drwy ddull rhaglen eang o ddadansoddi sosio-economaidd. Mae cyfraniad Etic Lab i’r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar ddatblygu a defnyddio metrigau newydd sy’n manteisio ar ddata rhyngrwyd agored i fesur y defnydd o’r Gymraeg ym mhresenoldeb busnesau a sefydliadau eraill ar draws rhanbarth ARFOR.

Mae’r egwyddor sydd wrth wraidd ein gwaith yn un syml – drwy edrych ar bresenoldeb digidol busnes dros amser, mae modd ennill mewnwelediadau dwfn i’w flaenoriaethau, gwerthoedd a strwythur mewnol. Yn y gorffennol, rydym wedi defnyddio’r dull hwn i fesur aeddfedrwydd digidol a gallu arloesol busnesau Cymreig, ynghyd a’i ddefnyddio i ddadansoddi sut y mae cwmnïau yn ymateb i’r egwyddorion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. I ARFOR, rydym wedi adeiladu ystod o fesuriadau newydd i’n helpu ni asesu sut mae busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus yn defnyddio’r iaith Gymraeg, ynghyd a modd o sicrhau pwysigrwydd llefydd penodol i sut y maent yn siarad am eu hunain a’u gwaith.

Isod, byddwn yn rhoi un enghraifft o’r gwaith rydym wedi ei wneud hyd yma, a sut yr ydym yn gobeithio cyfrannu i Raglen ARFOR wrth iddo fynd yn ei flaen.

Mesur yr ymdeimlad o berthyn

Elfen hanfodol o friff ARFOR yw i feithrin ymdeimlad dyfnach o le ac o berthyn ymysg cymunedau Cymru a’r busnesau sy’n eu gwasanaethu. Y bwriad yma yw ysgogi budd economaidd a chymdeithasol yn yr un modd; drwy bwysleisio unigrwydd Cymru fel tirlun ac amgylchfyd, a Chymreictod fel etifeddiaeth ddiwylliannol liwgar ynghyd a bod yn set o werthoedd a rennir, gobeithir y bydd cwmnïau yn gallu cryfhau eu darpariaeth i gwmnïau lleol a marchnadoedd ehangach.

I fynd i’r afael a’r thema hwn, mae Etic Lab wedi datblygu metrig newydd i fesur i ba raddau y mae busnesau a sefydliadau eraill yn ceisio taflunio ymdeimlad o le penodol drwy eu cyfathrebu ar-lein. Mae hyn yn seiliedig ar ddull o’r enw’r Sgôr Brand Semantaidd (Semantic Brand Score neu SBS), a gafodd ei ddatblygu gan academyddion o’r Eidal yn 2018. Mae SBS yn ddull ystadegol o gyfrifo pwysigrwydd gair neu ymadrodd penodol mewn testun, yn seiliedig ar dair ffactor wahanol.

1) Amlder: pa mor aml yw’r gair neu’r ymadrodd yn ymddangos yn y testun?

2) Amrywiaeth: i faint o gysyniadau gwahanol y mae’r gair neu’r ymadrodd yn cysylltu iddynt?

3) Cysylltedd: faint o gysyniadau gwahanol y mae’r gair neu’r ymadrodd yn gyswllt rhyngddynt?

Nid yw SBS yn cyfrif pa eiriau sy’n cael eu hailadrodd fwyaf yn unig; maent yn datgelu’r rôl y mae rhai cysyniadau allweddol yn eu chwarae wrth oleuo, rhoi cyd-destun i, neu gysylltu syniadau eraill. Er enghraifft, mae testun sy’n cynnwys defnydd helaeth o’r ymadrodd ‘gwerthoedd Cymreig’ yng nghyswllt syniadau megis ‘tegwch’ a ‘chyfiawnder’, gan dynnu ynghyd cysyniadau megis ‘ffyniant’ a ‘chynaladwyedd’ yn dweud nid yn unig faint o bwysigrwydd y mae’r awdur yn ei osod ar ‘werthoedd Cymreig’, ond hefyd rhywbeth ynghylch beth yw arwyddocâd yr ymadrodd iddynt.

Ar gyfer rhaglen ARFOR, rydym wedi addasu’r fethodoleg hon i helpu i ddeall pa mor bwysig yw cysyniadau ynghylch lle i fusnesau a chyrff sector gyhoeddus ar draws Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Gwynedd. Sut mae sefydliadau yn y rhanbarthau hyn yn siarad am le, a pa syniadau eraill a gysylltir ganddynt? A yw’r ‘ymdeimlad o le’ yn meddwl rhywbeth gwahanol i fusnes yn Ynys Môn o’i gymharu ag un yng Ngwynedd neu Ceredigion?

I adeiladu’r mesur hwn, defnyddion ni Enwau Lleoedd Safonol Cymru, rhestr o enwau llefydd wedi’u safoni, sy’n cael ei gynnal gan y Comisiynydd Iaith. Mae’r rhestr yn cynnwys nid yn unig enwau dinasoedd, trefi a phentrefi yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond hefyd henebion a thirnodau pwysig, gan ganiatáu i ni greu rhestr gynhwysfawr o’r holl lefydd pwysicaf ar draws rhanbarth ARFOR.

Yna, fe wnaethom ni strwythuro sampl o fusnesau ar draws bob un o awdurdodau lleol ARFOR, wedi ei bwysoli i adlewyrchu gwneuthuriad economaidd pob un ardal (h.y., nid yn unig faint o fusnesau y mae pob un awdurdod lleol yn ei gynnwys ond pa fath o fusnesau ac yn y blaen). Fe wnaethom hefyd lunio rhestr o sefydliadau sector gyhoeddus i bob ardal.

Bob wythnos, rydym yn mesur yn ddigidol testunau cyhoeddus gwefannau pob busnes yn ein sampl i ganfod defnydd o’r termau sydd ar ein rhestr o enwau llefydd. Rydym wedyn yn penodi sgôr SBS i bob un. Mae hyn yn caniatáu i ni weld pa mor aml y mae enwau penodol yn cael eu defnyddio a pa syniadau neu werthoedd eraill gallent fod yn cael eu cysylltu iddynt, yn nhermau sefydliadau unigol ac yn eu crynswth ar lefel y rhanbarth cyfan.

Yn y map hwn, rydym yn cyflwyno rhai canfyddiadau cychwynnol – crynhoad sgôr o’r Indecs Syniad o Le ar gyfer pob un ardal ARFOR, gan ddangos y graddau y mae sefydliadau o bob sir yn blaenoriaethu syniad penodol o le yn eu presenoldeb digidol. Mae’r sgôr uwch sydd gan Ynys Môn a Gwynedd yn adlewyrchu’r ffaith fod bod yn yr ardaloedd hynny yn ffactor bwysicach i’r busnesau a’r sefydliadau sydd yno, o’u cymharu â Cheredigion a Sir Gar, gan o bosib adlewyrchu’r syniad traddodiadol ohonynt fel cadarnleoedd defnydd o’r Gymraeg a hunaniaeth Gymraeg.

Wrth i’n gwaith barhau, byddwn yn tyrchu’n ddyfnach i grombil y data i ddeall pa lefydd oddi fewn i bob rhanbarth sydd fwyaf pwysig i sefydliadau lleol, a pa syniadau neu werthoedd eraill sydd yn cael eu cysylltu ag ardaloedd penodol.

Mae Etic Lab yn falch o allu cyfrannu i Raglen ARFOR, a hefyd o allu gweithio tuag at y prosiect o adeiladu Cymru fwy llewyrchus, cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer ei holl ddinasyddion.

 

 

 

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This