Pwyllgor Materion Cymreig i gynnal y sesiwn cyntaf ar newid poblogaeth yng Nghymru

Rhagfyr 2023 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Elizabeth Tower in London under blue and white skies

Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan i gynnal y sesiwn dystiolaeth gyntaf yn eu hymchwiliad i sut y mae poblogaeth Cymru yn newid, a sgil effeithiau’r newidiadau hynny ar economi a demograffeg y wlad. Ar ddydd Mercher 6 Rhagfyr am 9:30yb bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan dystion o wahanol sefydliadau ynghylch natur y newidiadau poblogaeth sydd ar waith.

Gobaith y Pwyllgor yw sefydlu os oes modd i Lywodraeth y DU ymateb i unrhyw heriau sy’n dyfod o newidiadau poblogaeth drwy ymyraethau polisi penodol. Cafodd yr ymchwiliad ei lansio ym mis Gorffennaf yn sgil y ffaith fod gan Gymru boblogaeth hŷn na rhannau eraill o’r DU, ac mae yna ofid cyffredinol am bobl ifancach yn gadael Cymru, yn enwedig ardaloedd cefn gwlad. Mae twf poblogaeth hefyd yn ymddangos fel ei fod yn arafu gyda’r boblogaeth yn tyfu 1.4% rhwng 2011 a 2021 o gymharu â 5.5% rhwng 2001 a 2011.

Y rheini bydd yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ac yn ateb cwestiynau bydd:

  • Emma Rourke, Dirprwy Ystadegydd Gwladol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Poblogaeth a Dulliau, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Jen Woolford, Cyfarwyddwr Ystadegau Poblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Yr Athro Michael Woods, FAcSS, FLSW, Athro Daearyddiaeth Ddynol a Chyd-gyfarwyddwr, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth
  • Meirion Thomas, Cyfarwyddwr – Cymru, Cynghrair Cymunedau Diwydiannol

Mae modd gwylio’r sesiwn yn ei gyfanrwydd ar parliament.tv sef gwefan ddarlledu San Steffan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This