Covid-19 a Brexit – y ‘storm berffaith’ ar gyfer y sector bwyd

Gorffennaf 2020 | O’r pridd i’r plât, Sylw

top view of tomatoes

Ers blynyddoedd lawer, mae undebau ffermio, arbenigwyr academaidd, a gweithgynhyrchwyr wedi pwysleisio bod diogelwch bwyd yn fater sydd angen sylw taer, ac mae’r misoedd diwethaf o gyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol wedi taflu goleuni llachar iawn ar y pryderon hyn. Dan gadeiryddiaeth Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, daeth panel blaenllaw o arbenigwyr ynghyd yn y Sioe Rithiol Frenhinol hon i ganfod yr effeithiau ac archwilio sut y gallai’r diwydiant bwyd ddod yn fwy gwydn.

Wrth gwrs, ochr yn ochr â’r pandemig mae Brexit, a siaradodd yr Athro Bob Doherty a Kevin Morgan am y ‘storm berffaith’ sy’n ein hwynebu. Dywedodd yr Athro Doherty o IKnowFood, gan fod 30% o fewnforion bwyd y DU yn dod o’r UE, yn ogystal â llif cyson o lafur dibynadwy, bod perthynas dda a bargen fasnach effeithiol gydag Ewrop yn hanfodol.

Dadleuodd yr Athro Morgan o Brifysgol Caerdydd y byddai bwyd yn debygol o fod y ‘pwnc llosg’ cyntaf o ran Brexit. Er bod masnach yn fater sydd wedi’i neilltuo i Lywodraeth y DU – gyda’r Prif Weinidog yn canolbwyntio ar sicrhau cytundeb masnach gydag Unol Daleithiau America, beth bynnag fo safonau diogelwch a lles y bwyd – mae materion amaethyddol, bwyd a pholisïau amgylcheddol, yn bwerau datganoledig sy’n cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Gyda gweledigaethau gwahanol iawn ar lefel Cymru a’r DU ar y materion hyn, mae’n ymddangos yn anorfod y bydd bwyd ar flaen y gad o ran y gwrthdaro hwn rhwng y ddwy wlad.

Mae newid y ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn caffael bwyd wedi bod yn bryder allweddol erioed, ac mae’r pandemig wedi ei wthio yn uwch eto ar yr agenda.  Soniodd Gwyneth Ayres am ddyhead Cyngor Sir Gaerfyrddin i sylwi ar ei phŵer prynu sylweddol a defnyddio hyn i gefnogi gweithgynhyrchwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol, gan gefnogi’r gadwyn gyflenwi – lle gallai cwmnïau unigol fod yn rhy fach i weithredu ar eu pen eu hunain – i gydweithio.  Mae Sir Gaerfyrddin yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn gyda chyngor yr Athro Morgan, a chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Pwysleisiodd David Morris o Lywodraeth Cymru bwysigrwydd y sector i Lywodraeth Cymru a sicrhaodd y gynulleidfa y byddai’r cymorth yn fwy – nid yn llai – oherwydd Covid a Brexit.

Gellid maddau i chi am feddwl mai cynhyrchu ceir, dur, neu awyrennau yw’r sectorau gweithgynhyrchu mwyaf yn y DU ac ystyried yr amser a’r sylw parhaus mae’r diwydiannau hyn yn ei gael yn y newyddion. Yn wir, bwyd a diod yw’r sector gweithgynhyrchu mwyaf yn y DU, ac mae Covid-19 wedi dangos mai dyma’r sector pwysicaf hefyd.

Ffynhonnell:
Cadwyni cyflenwi bwyd a chynhyrchu – Rhagolwg byd-eang gyda strategaeth leol: Beth mae Covid-19 wedi’i ddysgu inni?
https://royalwelsh.digital/cadwyni-cyflenwi-bwyd-a-chynhyrchu-rhagolwg-byd-eang-gyda-strategaeth-leol-beth-mae-covid-19-wedii-ddysgu-inni/?lang=cy

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This