Data mawr a sut mae Cymru’n manteisio ar y cyfle

Gorffennaf 2020 | Polisi gwledig, Sylw

Mae’n anhygoel meddwl bod yna 5 biliwn o ddefnyddwyr ffonau clyfar yn y byd, ac ar gyfartaledd, maent yn defnyddio 40 exabytes o ddata bob mis. Ac os nad ydych yn gwybod beth yw exabyte, at ddibenion y darn hwn, mae 40 ohonynt wedi’u lluosi â 5 biliwn, yn gryn dipyn!

Meddyliwch am hyn mewn ffordd arall. Bob munud, caiff 188 miliwn o negeseuon e-bost eu hanfon, mae 3.8 miliwn o bobl yn chwilio ar Google, caiff 2.1 miliwn o negeseuon eu llwytho i fyny ar Snapchat, ac mae un filiwn o bobl yn mewngofnodi i Facebook. Heb siarad yn dechnegol, mae hynny’n golygu bod llawer iawn o wybodaeth yn hedfan o amgylch y byd, yn gyflym ac yn gywir, drwy’r amser.

Gelwir hyn yn – Ddata Mawr. Gormod i gyfrifiaduron traddodiadol eu trin. Ac mae gwyddor data mawr yn ymwneud â storio, prosesu a dadansoddi data mawr, mewn rhai achosion ar gyfer pennu gwerth ariannol, mewn eraill er mwyn gwella’r broses o reoli sefyllfa, neu sicrhau canlyniadau gwell o ran gofal iechyd. Gall uwchgyfrifiaduron ac algorithmau nawr brosesu – neu ddadansoddi – symiau enfawr o ddata mewn amser real.

Ond beth mae hyn i gyd yn ei olygu?  A sut mae’n berthnasol i Gymru wledig?

Mae Prifysgol Caerdydd yn gobeithio cael atebion yn fuan. Bydd ei phrosiect Cymunedau Cysylltiedig Cydweithredol yn yr Economi Wledig (CoCoRE) yn asesu sut y gellir cymhwyso technoleg 5G at ddibenion da. Mae cyflymder 5G yn golygu bod technoleg yn cael ei defnyddio mewn ffordd fwy datblygedig a allai wella’r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â gwasanaethau hanfodol, o ynni, i drafnidiaeth, i ofal iechyd, ac yn galluogi cymunedau gwledig i fabwysiadu rhaglenni newydd megis ceir heb yrrwr, gofal iechyd o bell a’r dyfeisiau ‘clyfar’ yr ydym yn eu defnyddio fwyfwy yn ein cartrefi ac yn y gwaith.

Mae prifysgolion y consortiwm – hynny yw Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, a Bangor – hefyd yn arwain y ffordd o ran cymhwyso gwyddoniaeth data mawr i sefyllfaoedd bywyd go iawn, ymarferol. Mae’r canolfannau uwch-gyfrifiaduron wedi’u lleoli yn Abertawe a Chaerdydd ac wedi’u cysylltu â thimau ymchwil yn Aberystwyth a Bangor drwy gysylltiadau rhwydwaith cyflym iawn.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r cyfleusterau i gefnogi prosiectau dilyniannu DNA ar gyfer bridio planhigion a’r heriau data mawr o arsylwi ar y ddaear, tra mae Prifysgol Bangor yn manteisio ar ddata mawr i gefnogi prosiectau eigiomaidd ac ynni’r llanw.

Yn y cyfamser, ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i donnau disgyrchiant, a gwyddor genynnau sy’n edrych ar ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer clefydau etifeddol a chanser.

Mae prosiect Bloodhound Abertawe yn defnyddio uwchgyfrifiadura i helpu i greu’r car 1,000 mya cyntaf yn y byd, ac i ddatblygu algorithmau ar gyfer Swyddfa Dywydd y DU er mwyn rhagweld y tywydd.

Mae’n gysur gwybod bod Cymru’n cyfrannu at y gwaith, a bod gan ddata mawr gymwysiadau ymarferol ar gyfer cymunedau gwledig.  Mae’n werth cofio wrth i ni ystyried o ddifrif y bydd uned brosesu ganolog – y cylch electronig mewn cyfrifiadur safonol – yn gallu cyrraedd pŵer prosesu’r ymennydd dynol ymhen 10 mlynedd.

Mae hynny’n rhywbeth anodd ei ddirnad.

 

Rhai ffynonellau

Uwchgyfrifiadura Cymru – wedi’i ariannu’n rhannol gan (ERDF) drwy LlC, erthygl lansio yma.
Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data – erthygl Prifysgol Caerdydd yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This