Cronfa Her ARFOR: Gwybodaeth i ymgeiswyr

Awst 2023 | Arfor, Sylw

Gyda Chronfa Her ARFOR wedi lansio’n ffurfiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn dilyn sesiwn rhannu gwybodaeth i’r rheini a diddordeb gwneud cais am grant ar 4ydd o Awst, dyma ganllaw i’r rheini sydd yn ystyried gwneud cais i’r gronfa.

Os nad ydych yn gyfarwydd â Chronfa Her ARFOR, gallwch ddysgu mwy amdano a diben y grant drwy ddarllen ein canllaw blaenorol i hanfodion y gronfa. Mae’r erthygl hwn yn amlinelliad o’r broses gwneud cais ar gyfer grant ynghyd a rhai o’r dyddiadau allweddol i’w nodi os ydych yn ystyried gwneud cais.

Mae gwneud cais i Gronfa Her ARFOR yn broses sawl cam. Yn gyntaf rhaid i ymgeiswyr gwblhau Datganiad o Ddiddordeb drwy lenwi ffurflen gydag amlinelliad bras o’u syniadau, a fydd wedyn yn cael ei asesu gan Swyddogion Datblygu’r Gronfa Her. Wedi i ymgeiswyr ddatgan eu diddordeb, bydd aelod o dîm y gronfa yn cysylltu â nhw i weld pa gymorth sydd ei angen arnynt. Bydd tîm ARFOR wedyn yn darparu cefnogaeth i ymgeiswyr ac yn rhoi unrhyw gyngor angenrheidiol ar gyfer y cais terfynol, fel rhan o’r cam hwn cynhelir gweithdai penodol i lywio ymgeiswyr drwy wahanol rannau o’r broses. Nid yw mynychu’r gweithdai hyn yn orfodol ond gallent fod o help mawr i ymgeiswyr sydd yn ansicr am ba drywydd i gymryd gyda’u syniadau. Cam olaf y broses yw cyflwyno ffurflen gais yn ffurfiol gan amlinellu’r hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud a’i gyflawni fel rhan o’ch prosiect.

Fel y nodwyd, daw rhan o’r gefnogaeth bydd y Swyddogion Datblygu’r Gronfa Her yn ei ddarparu ar ffurf cyfres o weithdai i’r ymgeiswyr fynychu. Y cyntaf o’r gweithdai hyn yw un ‘Adnabod yr Her’ sy’n fodd o helpu ymgeiswyr i ystyried yr hyn y maent yn eu gweld fel problemau sydd angen eu datrys yn lleol i’w hardal nhw, ac ystyried union natur yr her y byddai eu prosiectau yn ceisio datrys. Yr ail weithdy yw sesiwn ‘Sbarduno syniadau’ gyda’r nod o geisio canfod datrysiadau beiddgar a gwreiddiol i’r heriau y mae’r prosiect am eu datrys. Enw’r trydydd gweithdy yw ‘Datblygu Peilot’ sef modd ar ddatblygu’r syniadau ar gyfer y prosiect fel eu bod yn gallu cael eu gwireddu ar ffurf cynllun didwyll a chadarn.

Wedi i ymgeiswyr gyflwyno cais, bydd ceisiadau yn cael eu hasesu gan banel rhanbarthol ARFOR. Mae pob cylch ymgeisio yn para deufis ac yn rhedeg hyd nes 24 Medi 2024, felly mae digon o gyfle i gael cais ynghyd. Bydd mwy o wybodaeth ynghylch dyddiadau cau penodol pob cylch ymgeisio yn cael ei ryddhau yn fuan.

I’r rheini sydd â diddordeb gwneud cais mae yna sawl gweithdy yn cael eu cynnal yn yr wythnosau nesaf.

  • Ar 7 Medi 2023 mae yna weithdy rhithiol ‘Datblygu prosiect peilot’ sy’n agored i bawb ar draws bob un o ranbarthau ARFOR.
  • Ar 13 Medi 2023 bydd gweithdy ‘Adnabod yr Her’ yn cael ei gynnal ar gyfer ymgeiswyr Gwynedd yn Galeri Caernarfon (Stafell Gyfarfod C1) rhwng 10yb a 12yh. Bydd yr un gweithdy yn cael ei gynnal i ymgeiswyr Môn yn hwyrach yr un diwrnod yn Llangefni yn Neuadd y Dref (Ystafell Swtan) rhwng 2 a 4yh.
  • Ar 20 Medi 2023 bydd y gweithdy ‘Adnabod yr Her’ hefyd yn cael ei gynnal i ymgeiswyr Sir Gâr yn Yr Egin rhwng 10yb a 12yh. Bydd y gweithdy wedyn yn cael ei gynnal ar gyfer ymgeiswyr Ceredigion yn ystafelloedd cyfarfod Menter a Busnes yn Aberystwyth.
  • Ar 5 Hydref 2023 bydd yr un sesiwn ‘Adnabod yr Her’ yn cael ei gynnal i ymgeiswyr Meirionydd yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn rhwng 10yb a 12yh.

Mae modd mynegi diddordeb a dechrau’r broses o wneud cais i Gronfa Her ARFOR drwy ddilyn y ddolen hon. Os hoffech wybodaeth bellach am unrhyw ddigwyddiadau neu sesiynau gallwch gysylltu yn uniongyrchol a thîm y gronfa drwy e-bostio Cronfa@menterabusnes.co.uk.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This